Peter Matthews
Mae cymdeithas amgylcheddol wedi mynegi ei phryder na fydd pennaeth Corff Amgylcheddol newydd yn “hidio dim am y Gymraeg”.
Yr wythnos ddiwethaf cafodd Peter Matthews ei benodi gan Lywodraeth Cymru i arwain y gwaith o uno’r Cyngor Cefn Gwlad, Asiantaeth yr Amgylchedd a’r Comisiwn Coedwigaeth. Mae Peter Matthews yn Athro ym Mhrifysgol Anglia Ruskin a bu’n un o benaethiaid cwmni Anglian Water.
Mae Tom Jones, Cadeirydd Cymdeithas Edward Llwyd, yn pryderu faint o Gymraeg fydd yn cael ei defnyddio gan y corff newydd.
“Dydyn ni ddim yn blwyfol nac yn hiliol. Ond mae’n rhaid i ni gadw at ein hawliau Cymreig dros Gymru. Mae’r pwyllgor yma rŵan yn mynd i fod yn bwyllgor fydd yn hollol Seisnigaidd eto fyth yn lle bod hi’n ddwyieithiog neu’n Gymraeg.”
Bob eisteddfod mae Cyngor Cefn Gwlad yn trefnu taith gerdded a chinio gyda mudiadau ac elusennau amgylcheddol. Dyna ddigwyddodd eto eleni ond doedd Peter Matthews ddim yno ar y daith gerdded, ond roedd yn bresennol yn y cinio wedyn gyda chyfle i bobol holi cwestiynau iddo.
Gwnaeth rhai o’i sylwadau ddim plesio Ieuan Roberts, aelod o Gymdeithas Edward Llwyd.
“Dywedodd e, “Rydym ni’n genedl o 60 miliwn” a dw i’n difaru yn ofnadwy na fydden i wedi codi yn y cyfarfod hwnnw a dweud, ‘Mae Cymru’n wlad o dair miliwn’”.
Gofynnodd cylchgrawn Golwg i Lywodraeth Cymru am gyfweliad gyda Peter Matthews ond dywedon nhw ei fod yn rhy brysur ar hyn o bryd.
Rhagor yng nghylchgrawn Golwg wythnos yma.