Mae Cymdeithas yr Iaith Gymraeg wedi cyhoeddi heddiw y bydd yn codi arwyddion i godi ymwybyddiaeth am y Coleg Cymraeg newydd ar dir Sefydliadau Addysg Uwch os na fyddan nhw’n  trefnu hynny eu hunain.

Yn ôl llefarydd y Gymdeithas ar addysg, Ffred Ffransis mae’r hen Sefydliadau Addysg Uwch yn trin y Coleg Cymraeg gyda “dirmyg”.

Dywedodd: “Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn bodoli ers blwyddyn bellach, ac eto nid yw’r hen Brifysgolion fel Aberystwyth wedi gwneud fawr ddim i godi arwyddion ac ymwybyddiaeth o’r ffaith fod y Coleg Cymraeg yn weithredol ar eu tir.

“Ymddengys i ni fod yr hen Sefydliadau Addysg Uwch yn trin y Coleg Cymraeg gyda dirmyg er yn barod iawn i dderbyn cyllid ganddo.

“Byddwn yn ymweld heddiw ag unedau Prifysgol Aberystwyth a SAUau eraill ar faes yr Eisteddfod i fynnu eu bod yn codi arwyddion sylweddol ar eu tir i ddynodi fod y Coleg Cymraeg yn weithredol erbyn pen-blwydd cyntaf y Coleg y mis nesaf. Byddwn yn eu rhybuddio y byddwn ni’n codi’r arwyddion ein hunain os methant â gwneud hynny.”

Mae’r Gymdeithas hefyd yn cynnal Fforwm Agored ar faes yr Eisteddfod heddiw i hybu strategaeth amgen ar gyfer y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac yn gwahodd aelodau’r cyhoedd i ddod yn “Gyfarwyddwyr Cysgodol” ar y Coleg.