Mae Prif Weinidog Cymru wedi dweud y bydd ymweliad yr Eisteddfod Genedlaethol â Bro Morgannwg yn rhoi “hwb aruthrol i’r iaith Gymraeg yn yr ardal”.
Dyma ymweliad cynta’r Brifwyl â Bro Morgannwg ers Eisteddfod y Barri yn 1968, ac mae Carwyn Jones yn dweud fod nifer y siaradwyr Cymraeg wedi “cynyddu’n sylweddol” yno yn ystod y blynyddoedd diwethaf.
“Addysg Gymraeg sy’n gyfrifol am hyn i raddau helaeth,” meddai Prif Weinidog Cymru.
“Mae canran y plant saith oed sy’n derbyn addysg drwy gyfrwng y Gymraeg wedi codi o 10.9% yn 2001 i 13.7% yn 2011. Erbyn hyn mae pump o ysgolion cynradd Cymraeg ac un ysgol uwchradd Gymraeg yn y Fro.
“Mae’r rhain yn cynnwys y ddwy ysgol gynradd Gymraeg yn Llanilltud Fawr a’r Barri a agorodd eu drysau ym mis Medi 2011.
Carwyn eisiau mynd un cam ymhellach
Er y chwyldro ym myd addysg Gymraeg yn y Fro, mae’r Prif Weinidog am weld yr iaith yn camu i’r lefel nesaf, meddai.
“Mynd un cam ymhellach yw’r her yn awr, fodd bynnag, a rhoi cyfle i blant a phobl ifanc fwynhau defnyddio’r Gymraeg tu allan i’r ysgol.
“Bydd angen syniadau newydd er mwyn datblygu’r iaith yn y dyfodol a sicrhau ei bod yn goroesi, ac mae’n rhaid i bawb ohonom yng Nghymru ei choleddu,” meddai Carwyn Jones.
Urddo Carwyn
Dywedodd Carwyn Jones fod yr Eisteddfod Genedlaethol yn “ddigwyddiad pwysig I ni fel cenedl” a bod cysylltiadau “diwylliannol a hanesyddol pwysig rhwng Bro Morgannwg, yr Eisteddfod a’r iaith Gymraeg”.
Bro Morgannwg oedd cynefin sylfaenydd yr Orsedd, Iolo Morganwg, a oedd yn byw yn Nhrefflemin ger Sain Tathan.
Bydd Carwyn Jones ei hun yn cael ei urddo gan yr Orsedd eleni, ynghyd â’r sêr chwaraeon Shane Williams, Stephen Jones, John Hartson ac Iwan Roberts, a’r DJ Huw Stephens.