Mae golwg360 yn dathlu carreg filltir bwysig gyda gwasanaeth arbennig ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Am y tro cynta’ erioed, fe fydd gwasanaeth newyddion ar gael o’r Maes – ar y Maes – ar bedair sgrîn fawr ac ar gyfrifiaduron a ffonau symudol.

Fe fydd yn adrodd ar newyddion yr Eisteddfod, pigion o ddigwyddiadau’r ŵyl o awr i awr, a phenawdau’r prif straeon eraill o Gymru a thu hwnt.

Mae’r gwasanaeth arbennig yn cael ei gynnig gan golwg360 a chylchgrawn Golwg ar y cyd ac mae’n ffordd o ddathlu’r ffaith fod y gwasanaeth ar-lein bellach wedi cyhoeddi mwy na 30,000 o straeon.

Fe gafodd y garreg filltir honno ei phasio ddechrau mis Awst – mae’n golygu bron 30 o straeon newydd bob dydd am fwy na thair blynedd.

Dylan Iorwerth yn dweud diolch

“Mae golwg360 wedi hen ennill ei blwyf yn wasanaeth newyddion trwy’r dydd bob dydd gan weithio ochr yn ochr â chylchgrawn Golwg sydd ar fin dathlu ei ben-blwydd yn 25 oed,” meddai Golygydd Gyfarwyddwr y ddau gwmni, Dylan Iorwerth.

“Mae’r gwasanaeth arbennig ar gyfer yr Eisteddfod yn ffordd i ni ddiolch i bawb am eu cefnogaeth tros y blynyddoedd. Unwaith eto, mae am dorri tir cwbl newydd o ran yr iaith Gymraeg.”

Yn y gorffennol, mae Golwg wedi cyhoeddi cylchgronau arbennig a hyd yn oed bapur dyddiol ar gyfer maes yr Eisteddfod.

“Yn aml iawn, pobol ar Faes yr Eisteddfod sy’n gwybod leia’ am yr hyn sy’n digwydd yno – y penawdau, y straeon gwleidyddol, y pethau sy’n cael eu dweud a’r canlyniadau,” meddai Prif Weithredwr golwg360, Owain Schiavone.

“Mi fydd y gwasanaeth newydd yn newid hynny a, gobeithio, yn gwneud cyfraniad positif at lwyddiant yr Eisteddfod yn 2012. Dyma fersiwn y cyfryngau newydd o bapur dyddiol i’r Brifwyl.”

Fe fydd y gwasanaeth i’w weld ar bedair sgrîn fawr – un ar stondin Golwg yn y Neuadd Arddangos, un ger ardal y caffi yn y Neuadd Arddangos, un arall yn y man ymgynnull i gystadleuwyr y tu cefn i’r llwyfan a’r llall yn y Ganolfan Groeso.