Mae aelodau o’r Undeb Gwasanaethau Masnachol a Chyhoeddus (PCS) yn rhoi’r gorau i weithio am dair awr y prynhawn yma yn Abertawe a rhannau eraill o dde Cymru.

Mi fydd gweithwyr y DVLA a’r Adran Drafnidiaeth yn cychwyn streicio am ddau oherwydd ffrae dros swyddi, cau swyddfeydd, tâl a phreifateiddio.

Yn ôl y PCS mae 1,200 o swyddi’r DVLA dan fygythiad oherwydd cynlluniau Llywodraeth Prydain i gau swyddi  a throsglwyddo’r gwaith i bencadlys y DVLA yn Abertawe.

“Does dim cadarnhad faint o swyddi fydd yn cael eu symud i Abertawe,” meddai Mike Hallinan o Undeb y PCS.

“Mae’n bosib mai swyddi dros dro fydd llawer o’r swyddi hyn, ac mae’r torri parhaus ar wariant yn ei gwneud yn anhebygol y bydd yna gynnydd o ran nifer y staff yn Abertawe…rydym ni o’r farn na ddyla’r Llywodraeth wneud i weithwyr y sector gyhoeddus dalu’r pris am greisis economaidd nad oedd yn fai arnyn nhw.”