Mae dyn y daethpwyd o hyd iddo’n anymwybodol yn y môr yn Aberystwyth wedi marw, yn ôl Heddlu Dyfed-Powys.
Cafodd Gwylwyr y Glannau eu galw i’r digwyddiad tua 8 y bore ma gan aelod o’r cyhoedd a oedd wedi gweld y dyn mewn trafferthion yn y môr.
Dyw marwolaeth y gŵr ddim yn cael ei drin fel un amheus.
Cafodd y dyn, a oedd mae’n debyg yn nofiwr profiadol, ei gludo i Ysbyty Bronglais lle bu farw.
Aeth bad achub o Aberystwyth a hofrennydd yr Awyrlu o’r Fali yn Ynys Môn i’w helpu ac fe aeth y parafeddygon ag o i’r ysbyty.
Yn ôl adroddiadau yn y Jewish Chronicle, Dov Berish Englander, Iddew Uniongred 47 oed oedd y dyn a fu farw.
Mae’n debyg ei fod yno ar wyliau o Lundain.