Ryan Giggs
Neithiwr torrodd Ryan Giggs record arall – ef yw’r sgoriwr hynaf erioed mewn gêm bêl-droed Olympaidd, ac yntau’n 38 a 243 diwrnod oed.
Sgoriodd y capten gôl gyntaf Prydain yn eu buddugoliaeth o 3-1 yn erbyn yr Emiradau Arabaidd Unedig. Y Cymro Craig Bellamy a ddarparodd y croesiad i Giggs gael penio’r bêl i’r rhwyd.
Nofio
Gwnaeth Georgia Davies yn dda i gyrraedd rownd gynderfynol y 100m dull cefn yn y pwll, ond methodd â chyrraedd y ffeinal ar ôl gorffen yn wythfed. Roedd y ferch o Abertawe yn cydnabod ei bod hi wedi ymroi cymaint yn y bore wrth ddod yn ail yn y rhagras fel ei bod hi wedi blino erbyn y rownd gynderfynol.
Chweched oedd Ieuan Lloyd o Benarth yn rhagras y 200m dull rhydd. Caiff gyfle arall i greu argraff yn y ras gyfnewid 200m yfory.
Seiclo
Methodd Nicole Cooke o Fro Morgannwg ag ail-adrodd ei buddugoliaeth euraid yn Beijing bedair blynedd nôl, ond llwyddodd ei chyd-aelod yn nhîm Prydain – Lizzie Armitstead – i ennill medal arian. Dyna fedal gyntaf Prydain yn y Gemau eleni.
Rhwyfo
Mae siawns arall Victoria Thornley o Wrecsam i gyrraedd y rownd gynderfynol ddydd Mawrth, ar ôl iddi hi a’r criw wythawd orffen yn drydydd yn y rhagras.
Bocsio
Llwyddodd Fred Evans i gyrraedd 16 olaf y pwysau welter ar ôl curo Ilyas Abadi o 18 i 10.
Heddiw bydd Tom James yn cystadlu yn y rhwyfo ac Andrew Selby yn cystadlu yn y sgwâr bocsio.
Mae Tom Daley a Pete Waterfield yn anelu am fedalau aur cyntaf Prydain heddiw wrth iddyn nhw blymio 10m, ar y cyd.