Aethpwyd a saith o bobol i’r ysbyty ar ôl gwrthdrawiad rhwng dau gerbyd ym Mhowys.
Digwyddodd y gwrthdrawiad ar yr A458 rhwng Llanfair Caereinion a Cyfronnydd tua 3.20pm ddoe.
Cafodd chwech eu cadw yn yr ysbyty dros nos ond maen nhw mewn cyflwr sefydlog.
Roedd Ford Focus gwyn wedi gwrthdaro â Ford Galaxy glas tywyll. Caewyd y ffordd nes 9.30pm ddoe.
Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth ffonio 101 neu 01267 222 020.