A fydd hen awyrennau yn cael eu datgymalu yn Llanbedr?
Mae cwmni wedi cyflwyno cais gerbron  Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri i ailddefnyddio hen faes awyr a’r adeiladau cysylltiedig fel iard sgrap awyrennau.

Byddai hyn yn golygu y byddai hen awyrennau yn cael eu datgymalu a’u datgomisiynu ar safle hen faes awyr Llanbedr.

Honnai’r cwmni, Llanbedr Airfield Estates LLP, o Swydd Gaerloyw, fod y cynllun yn mynd i gyflogi 34 o bobol dros gyfnod o dair blynedd yn un o’r ardaloedd sydd fwyaf o dan anfantais economaidd yng Nghymru.

Mae Cymdeithas Eryri, elusen ar gyfer gwarchod y Parc Cenedlaethol, yn  gwrthwynebu’r cais.

Dywedodd is-gadeirydd Cymdeithas Eryri, David Archer, y byddai hi’n “gwbl amhriodol i gyflwyno prosiect diwydiannol o sgrapio a thorri peiriannau enfawr i ardal wledig y Parc Cenedlaethol.”

“Byddai swyddi ychwanegol a chyfleoedd hyfforddi yn cael eu croesawu,” ychwanegodd. “Ond byddai angen asesu effaith y fath gynigion ar yr amgylchedd yn fanwl a byddai angen eu rheoli mewn ffordd addas.

“Dydyn ni ddim yn teimlo bod hynny wedi cael ei wneud eto.”

Mae Network Rail hefyd yn gwrthwynebu’r cais oherwydd y cynnydd a fydd yn y defnydd o’r groesfan yn Nhalwrn Bach.

Cafodd gwybodaeth am y cais ei wneud yn gyhoeddus bythefnos yn ôl ac mae amryw o’r cynghorau cymunedol lleol eisoes wedi datgan eu cefnogaeth.

Bydd Pwyllgor Cynllunio a Mynediad Arbennig yn cael ei gynnal Ddydd Mercher nesaf, 1 Awst i ystyried y cais cynllunio.

Mae golwg360 yn disgwyl am ymateb gan Awdurdod Parc Cenedlaethol Eryri ar y mater.