Mae cwmni dur Tata yn dechrau heddiw ar ran olaf prosiect £185m i ailadeiladu ffwrnais ym Mhort Talbot, er bod penaethiaid y cwmni wedi rhybuddio fod yr economi yn wynebu sawl her.
Fis diwethaf dywedodd penaethiaid Tata y byddan nhw’n gohirio cynnau’r ffwrnais newydd ym Mhort Talbot os na fydd digon o alw am ddur, a heddiw mae Karl Kohler, pennaeth Tata Steel yn Ewrop, wedi dweud bod angen i Lywodraeth Prydain weithredu i roi hwb i’r diwydiant dur.
Bythefnos yn ôl cyhoeddodd Tata y bydd rhai o weithwyr y cwmni yn Llanwern a Phort Talbot yn gweithio llai o oriau, ac yn cael llai o gyflog, er mwyn arbed costau. Dywedodd Tata bryd hynny fod y cwmni’n wynebu sefyllfa anodd o achos gostyngiad yn y galw am ddur.
Mae cwmni dur Tata yn cyflogi dros 7,000 o weithwyr ar ei safleoedd ym Mhort Talbot, Llanwern a Glannau Dyfrdwy.
Carwyn Jones: “angen rhoi cymorth i ddiwydiant”
Heddiw mae Prif Weinidog Cymru yn ymweld â Tata Steel ym Mhort Talbot, gyda’r Gweinidog Busnes Edwina Hart, ac mae Carwyn Jones wedi cydnabod fod y cwmni wedi bod yn “agored am yr heriau y mae’n eu hwynebu yn y farchnad dur byd-eang.”
Ychwanegodd Carwyn Jones fod prisiau ynni yn “bryder” i gwmni Tata.
“Rydw i wedi ysgrifennu at Ysgrifennydd Busnes y DU Vince Cable yn ddiweddar, gan bwysleisio’r pryderon parhaus sydd gan gynhyrchwyr diwydiannol sy’n cynhyrchu llawer ac sydd â pherchnogion rhyngwladol am effaith prisiau ynni uchel yn y DU,” meddai Carwyn Jones.
“Mae angen ystyried dulliau i roi cymorth ar frys i’n diwydiannau yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd economaidd yn Ewrop.”
Cheryl Gillan: “marchnad heriol”
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru fod Tata’n gweithredu mewn “marchnad heriol tu hwnt” ond bod buddsoddiad y cwmni ym Mhort Talbot wedi ei chalonogi.
“Dyma un o gyflogwyr mwyaf Cymru ac rwy’n edrych ymlaen at weld y ffwrnais newydd yn dwyn siâp dros y misoedd nesaf,” meddai Cheryl Gillan.