Fe fydd hyd at 35 o weithwyr yn colli’i swyddi yng ngogledd Cymru ar ôl i weinyddwyr cwmni Clinton Cards fethu dod o hyd i brynwyr ar gyfer y siopau yng Nghaergybi, Treffynnon, Amwythig, Bangor a Phorthmadog.
Fe gauwyd siopau’r cwmni yn Wrecsam, Pwllheli a Chaernarfon eisoes yn ogystal a siopau Birthdays ym Mhrestatyn, Caer a Brychdyn.
Aeth cwmni Clinton Cards i ddwylo’r gweinyddwyr ym mis Mai ar ôl i’r banciau – Barclays a Royal Bank of Scotland – werthu benthyciadau’r cwmni i’w cyflenwyr American Greetings.
Roedd gan y cwmni 628 o siopau Clinton a 139 o siopau Birthdays gan gyflogi mwy na 8,000 o staff cyn mynd i’r wal ar ôl gwneud colledion o £3.7 miliwn yn y 26 wythnos hyd at Ionawr 29 o’i gymharu ag elw o £11.7 miliwn yn y flwyddyn flaenorol.
“Mae hyn yn newyddion siomedig iawn,” meddai’r Cynghorydd Selwyn Griffiths o Borthmadog. “Yr unig obaith sydd y bydd rhywun yn dod i lewni’r bwlch cyn gynted ag sy’n bosibl.”