Mae gweithwyr Remploy yn streicio heddiw yn erbyn penderfyniad y Llywodraeth i gau ffatrïoedd ar draws Prydain.

Maen nhw wedi beirniadu “llywodraeth galon-galed” sy’n benderfynol o’u gorfodi i ‘fynd ar y clwt’.

Mae disgwyl i 27 o’r 54 ffatri gau erbyn diwedd y flwyddyn, ac mae gweithwyr o bob un o’r 54 ffatri yn cefnogi’r streic.

Mae dyfodol naw ffatri arall yn y fantol.

Bydd 1,700 o weithwyr ag anabledd allan o waith ar ôl i’r ffatrïoedd gau.

Mae undeb Unite wedi galw am fesur tebyg yn Lloegr i’r un y mae Llywodraeth y Cynulliad wedi addo ei gyflwyno yng Nghymru.

Eu bwriad yw rhoi £2.4 miliwn i gyflogwyr sy’n cynnig swyddi i’r rheini sy’n colli eu swyddi gyda Remploy.

Dywedodd swyddog cenedlaethol Unite, Sally Kosky: “Rydym yn disgwyl i’r rhan fwyaf o’r gweithlu ar draws y 54 ffatri i streicio fory.

“Maen nhw, wrth reswm, yn grac am eu bod yn wynebu dyfodol llwm ar y clwt, gan ei bod bob amser yn fwy anodd i’r rheini ag anabledd i gael gwaith.

“Dylai’r Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau, Iain Duncan Smith ddysgu gwers gan Lywodraeth Cymru, sydd wedi dangos trugaredd a chymorth ariannol ymarferol i gadw gweithwyr Remploy mewn swyddi am o leiaf bedair blynedd.”

Bydd gweithwyr Remploy yn cynnal streic arall ddydd Iau nesaf (Gorffennaf 26).

Yng Nghymru, mae’n debyg bod cais ar gyfer ffatri Wrecsam wedi’i wrthod, ac mae Unite wedi beirniadu’r penderfyniad hwnnw gan gyhuddo’r llywodraeth o fod yn “benderfynol i ddinistrio 67 mlynedd o hanes Remploy am resymau pur ideolegol”.

Mae disgwyl i’r tâl diweithdra sy’n cael ei roi i weithwyr Remploy fod yn is nag o’r blaen.