Gareth Jones
Mae Comisiynydd Addysg Ynys Môn wedi rhybuddio fod y drefn bresennol o ariannu ysgolion yn ôl  nifer y disgyblion sydd ynddyn nhw yn creu “tyndra ac ofn” ac yn arwain at gau ysgolion.

Dywed Gareth Jones fod trefn ariannu sy’n mesur cost pob disgybl yn arwain at fuddsoddi mewn disgyblion unigol ac nid mewn ysgolion a chymunedau.

“O dan y drefn yma mae sawl ysgol dan fygythiad, yn arbennig pan ystyriwch chi fod llawer o ysgolion mewn diffyg ariannol,” meddai’r cyn-brifathro ysgol a chyn-Aelod Cynulliad sydd bellach yn un o bum comisiynydd sy’n rheoli Cyngor Ynys Môn.

Bu Gareth Jones yn cyfarfod neithiwr gyda rhieni Ysgol Talwrn fel rhan o ymgynghoriad ar ddyfodol yr ysgol honno ac ysgolion Corn Hir a’r Graig. Yn dilyn y cyfarfod mae Cyngor Ynys Môn wedi penderfynu ail-ymgynghori ar ddyfodol y tair ysgol ac mae Gareth Jones yn cydnabod fod yr ymgynghoriad cyntaf wedi “gor-ganoli” ar Ysgol Talwrn a heb ystyried digon o opsiynau eraill.

“Mae angen i ni fod yn dryloyw fel bod cymariaethau teg yn digwydd rhwng ysgolion,” meddai Gareth Jones. Ychwanegodd y bydd yr ymgynghoriad newydd yn edrych yn ehangach ar ysgolion ardal Llangefni ac nid ar y tair ysgol wreiddiol yn unig.

“Amser heriol”

Dywedodd Gareth Jones nad yw cau ysgolion yn anochel ond fod angen newid y system.

“Os gawn ni gynlluniau dychmygus a beiddgar yna gallwn ni gadw ysgolion ar agor. Ystyriwch chi ofal plant – mae rhieni’n talu llawer amdano ac mae yna gyfle fan yna i ysgolion ddarparu gwasanaeth yn y maes yna.

“Mae hi’n amser heriol iawn ac mae angen i ni ystyried sut mae gwneud addysg yn gynaliadwy.

“Ond os bydd y drefn ariannu yn aros fel y mae yna fe fydd ysgolion yn cau.”