Craig Roderick, chwith, ac Apete Tuisovurua gafodd eu lladd yn Afghanistan
Fe fydd angladd milwr gafodd ei ladd mewn ymosodiad yn Afghanistan yn cael ei gynnal heddiw.

Cafodd y gwarchodfilwr Craig Roderick, 22, o Gaerdydd, oedd yn aelod o Fataliwn 1af y Gwarchodlu Cymreig, ei ladd wrth ymyl siecbwynt ar 1 Gorffennaf.

Wrth adael y siecbwynt yn Kamparack Pul fe fu ymosodiad ar y patrol gan ddyn yn gwisgo lifrai heddlu Afghanistan, a chafodd  Craig Roderick ei ladd ynghyd a’r  gwarchodfilwr Apete Saunikalou Ratumaiyale Tuisovurua, 28, oedd hefyd yn aelod o’r Gwarchodlu Cymreig,  a Leonard Perran Thomas, 44, o Gorfflu Brenhinol y Signalau.

Fe fydd yr angladd yn cael ei gynnal yn Eglwys Gadeiriol Llandaf, a gwasanaeth i ddilyn yn amlosgfa Thornhill, Caerdydd.