Kirsty Williams
Mae Kirsty Williams, arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, wedi croesawu canlyniadau’r pôl piniwn ar y Comisiwn Silk.

Credai bron i ddau draean o bobl Cymru y dylai lefel y dreth incwm y maen nhw’n talu cael ei bennu yng Nghymru, yn ôl arolwg barn y BBC ar ran Comisiwn Silk.

Sefydlwyd y Comisiwn Silk ym mis Hydref y llynedd i adolygu’r trefniadau ariannol a chyfansoddiadol presennol yng Nghymru.

Roedd 64% o’r rhai a holwyd yn dweud y dylai pwerau trethu gael eu datganoli i Lywodraeth Cymru.

“Mae’r pôl yn adlewyrchu athroniaeth y Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ac mae’n agos iawn i’r hyn y gwnaethon ni ei roi i’r Comisiwn Silk,” meddai Kirsty Williams.

“Rydym ni’n teimlo y byddai pwerau trethu yn gwneud Llywodraeth Cymru yn fwy atebol i bobl Cymru.

“Byddai hyn yn cryfhau’r wlad ac yn helpu i wneud gwahaniaeth mawr i fywydau pobl ledled Cymru,” ychwanegodd Kirsty Williams.

Bydd y Farwnes Jenny Randerson o Ddemocratiaid Rhyddfrydol Cymru’n arwain trafodaeth yn Nhŷ’r Arglwyddi ar y Comisiwn Silk ddydd Iau.