Mae Llywodraeth Prydain wedi cyhoeddi cynllun i drydaneiddio’r rheilffordd rhwng Llundain a de Cymru.
Mae’r buddsoddiad yn cynnwys trydaneiddio’r llinell rhwng Llundain ac Abertawe, a thrydaneiddio rheilffyrdd y Cymoedd sy’n ymestyn i Lyn Ebwy, Merthyr Tudful, Treherbert a Maesteg, a’r llinell rhwng Caerdydd a Bro Morgannwg.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, mai dyma’r cyhoeddiad rhwydwaith “mwyaf arwyddocaol ers degawdau.” Ychwanegodd fod Llywodraeth Prydain wedi “dangos ei hymrwymiad i Gymru heddiw.”
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru y bydd £350 miliwn yn cael ei wario’n uniongyrchol ar y rhwydwaith reilffordd yng Nghymru ac y bydd Cymru’n elwa’n anuniongyrchol o fuddsoddiad gwerth £2 biliwn.
Mynnodd Cheryl Gillan bod ei ffocws “y tu hwnt i unrhyw wlad unigol.”
“Roedd ein penderfyniad yr wythnos ddiwethaf i ymestyn y cyswllt rhwng Heathrow a’r gorllewin yn cysylltu de Cymru a phrif faes awyr Prydain ac yn sicrhau teithiau cyflymach rhwng Llundain a Chaerdydd.
“Mae cael cyswllt rheilffordd gwell yn hanfodol er mwyn datblygu economi Cymreig llwyddiannus a gallwn ni edrych ymlaen at system reilffyrdd fodern ac effeithiol yng Nghymru.”
“Hwb amhrisiadwy”
Dywedodd arweinwyr y Ceidwadwyr yng Nghymru, Andrew RT Davies, fod y cyhoeddiad heddiw yn “hwb amhrisiadwy” i dde Cymru ac yn “cyferbynnu gydag anallu’r Llywodraeth Lafur flaenorol i drydaneiddio’r un centimetr o linell yng Nghymru.”
Bydd cynllun buddsoddi £9 biliwn Llywodraeth glymblaid Prydain hefyd yn cynnwys datblygiad £5 biliwn Thameslink a Crossrail yn Llundain, a thrydaneiddio’r rheilffordd canolbarth Lloegr o Bedford i Sheffield.
Mae disgwyl i’r gwaith ddechrau yn 2014 a bydd yn para tan 2019.