Wrth i’r duedd o ddefnyddio Mephedrone gynyddu ymysg pobol ifanc, mae Heddlu Dyfed Powys yn rhoi cyngor i rieni ar sut i adnabod effeithiau’r cyffur.

“Dyma rybudd amserol i rieni ar drothwy gwyliau’r haf,” meddai llefarydd yr heddlu.

Mae Mephedrone wedi ei osod yn nghategori Class B o ran cyffuriau anghyfreithlon, ac yn cael ei alw’n ‘meow meow’ ar lawr gwlad.

Cyffur powdwr lliw gwyn neu wyn budur ydy ‘meow meow’, ac mae ei effaith yn debyg i gocên ac amffetaminau – mae defnyddwyr yn teimlo’n effro iawn, yn iwfforig a siaradus.

Ond mae rhai defnyddwyr yn teimlo’n anniddig a pharanoid.

Nid yw’n wybyddus beth yw effeithiau tymor hir cymryd y cyffur, sydd â blas mwy arno.

“Mae yna rai sgîl effeithiau difrifol o ddefnyddio meow meow,” meddai’r Arolygydd Richard Lewis.

“Gall y rhain gynnwys trawiad ar y galon, chwysu a pharanoi.

“Rhai arwyddion i fod yn ymwybodol ohonyn nhw, yn ystod y ‘come down’, yw bod defnyddwyr yn emosiynol iawn a gall rhai fod yn eitha’ treisgar. Mae’r cyffur hefyd yn lleihau’r awydd am fwyd a’r angen am gwsg a gall defnyddwyr ddiodde’ o ddiffyg cwsg a maeth yn gyflym iawn.

“Hefyd bydd defnyddwyr yn drewi o oglau tebyg i biso sdêl cath. Mi fyddan nhw eu hunain yn methu ogleuo’r arogl, ond trwy chwysu mi fydd are u croen, gwallt a dillad.

“Ond ar wahân i’r peryglon o safbwynt iechyd, mae’n bosib carcharu rhywun sy’n cario meow meow am hyd at bum mlynedd.

“Gall unrhyw un sydd am wybod mwy fynd i’n gwefan www.dyfed-powys.police.uk neu www.dan24/7.org.uk.”