Lesley Griffiths
Mae’r gwrthbleidiau wedi cytuno i gyflwyno cynnig o ddiffyg hyder yn y Gweinidog Iechyd.

Mae’n dilyn dadleuon tros ‘annibyniaeth’ adroddiad am ad-drefnu’r Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru.

Ddoe, fe wrthododd y Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, alwadau ar iddi ymddiswyddo ar ôl iddi ddod yn amlwg fod awdur yr adroddiad ac un o benaethiaid y Gwasanaeth wedi bod yn ymgynghori â’i gilydd yn ystod cyfnod creu’r adroddiad.

Yn awr, mae’r Gymdeithas Feddygol – y BMA – wedi beirniadu’r adroddiad gan honni ei fod wedi ei greu er mwyn cyfiawnhau argymhellion dadleuol a’i fod wedi ei danseilio. Maen nhw’n dweud ei fod yn “ymgais sinigaidd” i geisio dylanwadu ar weithwyr y Gwasanaeth Iechyd.

Bydd y Ceidwadwyr, Plaid Cymru a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn galw ar Bwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol i orfodi’r Gweinidog Iechyd, ei swyddogion a’r Athro Marcus Longley, i ateb cwestiynau o flaen y pwyllgor ddydd Mercher nesaf.

‘Galw arni i ymddiswyddo’

Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, “Rydym ni’n gofyn iddi (Lesley Griffiths) ymddiswyddo i bob pwrpas, a dylai hi a’r Prif Weinidog (Carwyn Jones) ystyried ein cynigion o ddifrif.”

“Mae llawer o gwestiynau difrifol yn parhau ar y mater pwysig yma, yn enwedig o ystyried sylwadau’r BMA y bore ma,” meddai arweinydd y Ceidwadwyr yn y Cynulliad, Andrew RT Davies.

“Mae hyn yn atgyfnerthu’r naws argyfyngus ac amheuaeth sy’n cwmpasu’r Gweindog Iechyd, mewn cyfnod lle mae’r Gwasnaeth Iechyd yng Nghymru angen gonestrwydd, tryloywder ac atebolrwydd.”

‘Dim ateb credadwy’

Dywedodd llefarydd iechyd Plaid Cymru Elin Jones AC : “Methodd y Gweinidog ag ateb y cwestiwn allweddol – pam ei bod wedi ceisio portreadu’r adroddiad fel un annibynnol er ei fod yn amlwg ddim?  Mi fyddai ei swyddogion wedi ei chynorthwyo i ddrafftio ei Datganiad Ysgrifenedig ar Fai 9 2012, a gyfeiriodd ddwywaith at gymwysterau annibynnol yr adroddiad.  Roedd y swyddogion hynny eisoes wedi trafod cynnwys yr adroddiad ac wedi cynnig cyngor golygyddol i’r awdur.

“Nid codi amheuaeth am eiriau’r awdur ydym ni, ond am eiriau’r Gweinidog.

“Nid ydwyf wedi clywed ateb credadwy gan y Gweinidog i’r cwestiwn sylfaenol hwn.  Hyd nes ei bod yn gallu rhoi ateb credadwy yna ni allwn gael fawr o hyder yn ei geiriau yn y dyfodol.

“Mae arnom angen Gweinidog y gallwn gael hyder fod ei geiriau’n llawn sylwedd a dim sbin.  Mae dyfodol y GIG yn y fantol yma – mater eithriadol o ddifrifol.”