Roger Roberts
Mae dyn 82 oed wedi derbyn ei radd Bagloriaeth gan Brifysgol Aberystwyth.
Roger Roberts, sy’n byw yn Aberystwyth, yw’r person hynaf i raddio o’r brifysgol eleni, ac fe dderbyniodd ei radd mewn Astudiaethau Economaidd a Chymdeithasol mewn Gwleidyddiaeth Ryngwladol mewn seremoni ddoe.
Astudiodd y cwrs tair blynedd dros gyfnod o bedair blynedd oherwydd salwch yn ystod ei drydedd flwyddyn.
Dywedodd: “Dwi’n dioddef o asthma cronig a chan hynny fe gymerodd hi fwy o amser na’r disgwyl imi gwblhau fy ngradd, ond dwi ar ben fy nigon fy mod i wedi graddio o’r diwedd! Edrychaf ymlaen at y seremoni a dwi wedi mwynhau f’amser yma yn fawr iawn.”
Graddiodd o’r un brifysgol yn 2005 gyda gradd BA gydag Anrhydedd mewn Astudiaethau Americanaidd.
Cyn ymddeol, bu’n gweithio yn y gwasanaeth iechyd.
Ychwanegodd: “Ymddeolais yn 1993 ond gweithiais yn rhan amser am rai blynyddoedd cyn ymddeol yn gyfan gwbl yn 2001. Dyna phryd ges i’r syniad o astudio yn y Brifysgol.
“Meddyliais – mae’r sefydliad gwych hwn ar riniog fy nrws a dylwn i fod yn astudio rhywbeth yn hytrach na gwastraffu f’amser adref.
“Ond, fydd dim mwy o astudio nawr! Dwi’n mynd i eistedd yn ôl, ymlacio, a mwynhau f’ymddeoliad!”