Y cyfansoddwr Karl Jenkins yn Llangollen neithiwr
Fe ddaeth côr rhyngwladol at ei gilydd yn Eisteddfod Llangollen neithiwr i berfformio gwaith corawl diweddaraf y cyfansoddwr Karl Jenkins.
Hwn oedd y perfformiad mwyaf hyd yma o ‘The Peacemakers’, gyda chôr pedwar llais yn cynnwys Cantorion Sirenian, Côr Caerdydd, Côr Feseka o Dde Affrica a chorws newydd Eisteddfod Llangollen i gyflwyno neges heddwch i’r byd.
Enillydd Canwr y Byd Caerdydd, Valentina Nafornita, oedd y gwestai arbennig yn ystod y cyngerdd ac ymunodd y chwaraewr soddgrwth ifanc, Steffan Morris, â Karl Jenkins i arwain Cerddorfa Eisteddfod Ryngwladol Llangollen.
Mae’r gwaith corawl yn defnyddio geiriau gan Gandhi, Martin Luther King, Nelson Mandela, y Dalai Lama, Albert Sweizter a Terry Waite yn ogystal â geiriau o’r Beibl, y Quran ac o grefyddau eraill i gyfleu ei neges o heddwch.
“Cafodd ‘The Peacemakers’ ei hysgrifennu er cof am y rheini wnaeth colli eu bywydau yn ystod gwrthdaro a therfysg, yn enwedig y bobl ddiniwed,” esboniodd Karl Jenkins.
“Pan es i ati i gyfansoddi ‘The Armed Man: A Mass for Peace’ i ddathlu’r mileniwm, roedd yna lygedyn o obaith ar y gorwel wrth groesawu canrif newydd yn llawn heddwch. Yn anffodus, does braidd dim wedi newid.”