Mae Bwyd Cymru Bodnant yn hyrwyddo cynhyrchwyr lleol fel Trefor a Marian Roberts, cwmni wyau Ochr Cefn Isa, Ysbyty Ifan, sy’n dangos eu cynnyrch yn y llun gyda Sandy a Carol Boyd
Fe fydd canolfan arloesol ar gyfer hyrwyddo bwydydd Cymru’n cael ei hagor yn swyddogol yn nyffryn Conwy brynhawn Llun.
Canolfan Bwyd Cymru Bodnant, sydd gerllaw Gardd enwog Bodant, yw’r unig ganolfan ragoriaeth o’i bath yng Nghymru, ac mae’r gwaith o adfer ac addasu hen adeiladau Fferm Ffwrnais ar ochr yr A470 wedi bod yn mynd ymlaen ers tua dwy flynedd.
Mae’r ganolfan, sydd mewn llecyn uwchben afon Conwy ger Pont Tal-y-Cafn yn cynnwys siop fferm, bwyty ac ysgol goginio – yn ogystal â lle i gynhyrchu a hyrwyddo bwyd.
Mae’r siop fferm yn cynnwys siop gigydd, becws a llaethdy a fydd yn gwneud caws, menyn, hufen ia a iogwrt – cynnyrch a fydd ar gael yn y bwyty hefyd.
Buddsoddiad
Datblygiad preifat gyda chymorth Cronfa Datblygu Rhanbarthau Ewrop a Llywodraeth Cymru yw’r ganolfan, ac mae’n un o’r buddsoddiadau mwyaf mewn menter annibynnol yng Nghymru ers blynyddoedd lawer.
Y Tywysog Charles a Duges Cernyw fydd yn agor y ganolfan £6.5 miliwn ddydd Llun, ar gychwyn pedwar diwrnod o ymweliad blynyddol Tywysog Cymru â Chymru.
“Mae Tywysog Cymru’n gryf ei gefnogaeth i fentrau sy’n annog cyflenwi a chynhyrchu bwyd lleol – ac mae pawb yn Bwyd Cymru Bodnant wrth eu bodd ei fod ef a’r Dduges wedi cytuno i agor ein canolfan,” meddai Rheolwr Gyfarwyddwr Bwyd Cymru Bodnant, Sandy Boyd.
Yn ddiweddarach yn y dydd, fe fydd y Tywysog a’r Dduges yn mynd ymlaen i Aberystwyth i gyfarfod rhai o’r bobl a ddioddefodd yn y llifogydd yng Ngheredigion.