Dywed Aelod Cynulliad Ceidwadol dros ogledd Cymru ei fod yn ffyddiog o weld trên uniongyrchol yn ailgychwyn rhwng y gogledd a Lerpwl am y tro cyntaf ers 40 mlynedd.

Mae Darren Millar wedi galw ar y Gweinidog Trafnidiaeth Carl Sargeant, i weithio gyda llywodraeth Prydain i adfer gwasanaethau trên uniongyrchol er mwyn hybu economi’r gogledd.

Does dim trenau uniongyrchol wedi bod rhwng y gogledd a Lerpwl ers yr 1970au.

“Dw i’n falch fod Llywodraeth Cymru’n cydnabod o’r diwedd y budd y gallai gwasanaeth trên uniongyrchol ei gael i ogledd Cymru,” meddai Darren Millar.

“Fel canolfan fasnachol fawr gyda chysytlliadau cryf â gogledd Cymru, does dim dwywaith y byddai gwella’r seilwaith trafnidiaeth rhwng Lerpwl a’r gogledd yn rhoi hwb y mae mawr angen amdano i’r economi.

“Mae symud teithwyr o’r ffyrdd i’r rheilffyrdd hefyd yn dda i’r amgylchedd.

“Mae’n hanfodol fod Llywodraeth Cymru’n gweithio gyda Llywodraeth Prydain ar y mater yma.”