Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru wedi rhybuddio y gall llifogydd daro Cymru unwaith eto yfory.

Maen nhw’n rhybuddio pawb i fod ar eu gwyliadwriaeth gan eu bod yn rhagweld y bydd hi’n  glawio’n drwm bore fory.

Mae’n debyg mai Gogledd Ddwyrain Cymru  – Sir Ddinbych, Sir y Fflint a Wrecsam -fydd yn dioddef y tywydd gwaetha, ond mae arbenigwyr yn rhagweld y gall bob rhan o Gymru weld cawodydd eithriadol o drwm o oriau mân y bore fory hyd at ddydd Sadwrn.

Mae’r ffaith fod y tir yn parhau i fod yn wlyb iawn ar ôl yr holl law trwm diweddar yn cynyddu’r risg o lifogydd, meddent.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru hefyd yn rhybuddio pobl i beidio â cheisio cerdded neu yrru trwy unrhyw lifogydd.

Galwyd swyddogion o’r Asiantaeth i Bentywyn, Sir Gaerfyrddin, neithiwr ar ôl i afon orlifo. Cliriwyd rwbel i alluogi’r afon i lifo’n ddiogel, a defnyddiwyd peiriannau pwmpio dŵr er mwyn atal unrhyw lifogydd.