Mae  2ail Fataliwn y Cymry Brenhinol yn cael ei golli fel  rhan o gynlluniau’r Llywodraeth i ail-strwythuro’r fyddin.

Fe gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Amddiffyn Philip Hammond yn Nhŷ’r Cyffredin prynhawn ma  y bydd 2ail Fataliwn Catrawd y Ffiwsilwyr, 2ail Fataliwn Catrawd Swydd Caerefrog, a 3ydd Bataliwn Catrawd Mercian hefyd yn mynd tra bydd 5ed Bataliwn Catrawd Frenhinol yr Alban yn cael ei leihau i gyflawni dyletswyddau cyhoeddus yn unig.

Mae’r Cafalri Cymreig a’r Gwarchodlu Cymreig wedi osgoi’r fwyell. Ond fe fydd 2ail Fataliwn y Cymry Brenhinol yn cael ei uno a’r Bataliwn 1af ym mis Hydref 2013. Mae’n un o 17 o unedau sylweddol sy’n cael eu colli fel rhan  o’r cynlluniau ad-drefnu.

Fe fydd yn golygu bod nifer y milwyr yn gostwng o 102,000 i 82,000 erbyn diwedd y degawd.

Yn ôl Philip Hammond fe fydd y newidiadau yn gosod y seiliau ar gyfer byddin lai, fwy hyblyg ar gyfer y dyfodol.

Mae Philip Hammond eisoes wedi dweud nad oes modd osgoi gwneud toriadau gan fod yn rhaid arbed costau o dan Adolygiad Strategaeth Amddiffyn a Diogelwch y Llywodraeth 2010.

‘Hynod siomedig’

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fod y cyhoeddiad heddiw yn “newyddion hynod siomedig” i aelodau’r Cymry Brenhinol.

“Dwi eisoes wedi siarad â Brigadydd Napier, Pennaeth y Fyddin yng Nghymru, am yr oblygiadau i aelodau ein lluoedd arfog,” meddai.

“Mae colli’r Ail Fataliwn yn ergyd drom i’r milwyr o’r Bataliwn sy’n gwasanaethu ar hyn o bryd a chyn filwyr y Bataliwn, a hefyd i deuluoedd y rhai sydd wedi rhoi eu bywydau er mwyn eu gwlad,” ychwanegodd.

Galwodd ar y Weinyddiaeth Amddiffyn “i wneud pob dim oddi fewn eu gallu i gynorthwyo’r rhai sy’n cael eu heffeithio gan y penderfyniad hwn.”

‘Cymru’n parhau i fod wrth wraidd y Lluoedd Arfog’

Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, ei bod yn falch fod Cymru’n parhau i fod wrth wraidd y Lluoedd Arfog Prydeinig.

Roedd yn siomedig gweld “dau fataliwn balch” yn uno, meddai ond roedd wedi derbyn sicrwydd gan yr Ysgrifennydd Amddiffyn fod hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau fod y Fyddin yn parhau i fod yn hyblyg yn wyneb  sialensiau’r dyfodol.

“Yn gyffredinol, dwi’n falch fod Cymru yn cadw nifer arwyddocaol o gatrodau,” meddai.

“Dwi wedi cefnogi ein Lluoedd Arfog yng Nghymru yn gyson a dwi’n ddiolchgar i fy nghyd aelodau yn y Cabinet am wrando ar fy nadleuon am y pwysigrwydd o sicrhau fod unedau milwrol Cymreig yn cael eu hamddiffyn gymaint â phosib.”

Dywedodd Andrew RT Davies AC, Arweinydd y Ceidwadwyr yng Nghymru, ei fod yn falch fod y Cafalri Cymreig wedi cael ei arbed yn ei gyfanrwydd.

“Mae’r cyhoeddiad heddiw yn un i’w groesawu,” meddai.

Roedd yn deall fod rhaid gwneud penderfyniadau anodd yn sgil “y sefyllfa ariannol fregus a adawyd gan y llywodraeth Lafur blaenorol,” ychwanegodd.