Llys y Goron Abertawe
Mae’r rheithgor yn achos mam sydd wedi ei chyhuddo o lofruddio ei babi drwy ddefnyddio cyffur lladd poen ar gyfer oedolion, wedi ail-ddechrau ystyried eu dyfarniad heddiw.
Mae Michelle Smith, 34, wedi ei chyhuddo o lofruddio ei merch Amy, oedd yn 42 diwrnod oed, yn eu cartref yn Nhreforys, Abertawe.
Roedd y rheithgor yn Llys y Goron Abertawe rhoi’r gorau i ystyried eu dyfarniad brynhawn ddoe ar ôl methu â dod i gytundeb ar ôl dwy awr.
Cafodd y ferch fach ei gweld gan ymwelydd iechyd ar y diwrnod bu farw ar 9 Tachwedd, 2007, a dywedodd ei bod yn dod yn ei blaen yn “dda iawn”.
O fewn oriau, cafodd parafeddygon eu galw ar frys i’r tŷ ond bu’n rhaid iddyn nhw roi’r gorau i geisio achub Amy.
Roedd prawf wrin mwy na phythefnos cyn ei marwolaeth yn dangos fod y cyffur lladd poen dihydrocodeine yn ei system.
Ni chafodd canlyniadau’r prawf eu pasio mlaen at feddyg Amy ac fe gafodd o leiaf un dos arall o’r cyffur cyn iddi farw.
Roedd archwiliad post-mortem hefyd yn dangos fod y cyffur yn ei system.
Mae Michelle Smith wedi gwadu drwy gydol yr achos ei bod hi wedi niweidio Amy, na chwaith wedi rhoi unrhyw gyffur iddi yn ystod ei bywyd byr.
Ar ôl cael ei holi i egluro sut rodd y cyffur wedi ei ddarganfod yng ngwaed ei merch, dywedodd bod rhaid i hynny fod wedi digwydd o dan ofal yr ysbyty.
Cafodd y cyhuddiad o achosi neu ganiatáu marwolaeth Amy ei dynnu nôl a chafodd cyhuddiad o ddynladdiad ei wneud yn ei le.