Mae traffordd yr M6 wedi cael ei gau heddiw ar ôl i blismyn arfog symud 48 o bobl oddi ar fws.
Cafodd y draffordd ger Lichfield ei chau i’r ddau gyfeiriad ar ôl i honiadau gael eu gwneud ynglŷn ag un o’r 48 o deithwyr ar fwrdd y bws oedd yn teithio o Preston i Lundain bore ma, yn ôl y cwmni bysys Megabus.
Dywed Heddlu Sir Stafford eu bod wedi eu galw i’r digwyddiad yn Weeford ger Lichfield am 8.20am bore ma. Mae’n debyg nad ydyn nhw bellach yn trin y digwyddiad fel mater terfysygol.
Dywedodd llefarydd ar ran Megabus: “Rydyn ni’n helpu’r heddlu gyda’u hymholiadau i honiad a wnaed yn erbyn teithiwr oedd ar fwrdd un o’n bysys.”
Yn ôl rhai adroddiadau, roedd dyn wedi cael ei weld yn tywallt hylif i mewn i fag yn llawn mwg ar y bws.
Roedd plismyn arfog wedi amgylchynu’r bws wrth i deithwyr gael eu hebrwng oddi ar y bws.
Mae’n debyg nad yw’r digwyddiad yn gysylltiedig â’r digwyddiad gwrthderfysgaeth bore ma lle cafodd chwech o bobl eu harestio yn Llundain.