Craig Roderick ac Apete Tuisovurua
Mae’r Weinyddiaeth Amddiffyn wedi cyhoeddi enwau’r tri milwr gafodd eu saethu’n farw yn Afghanistan ddydd Sul.

Roedd  Craig Andrew Roderick ac Apete Saunikalou Ratumaiyale Tuisovurua ynaelodau o Fataliwn 1af y Gwarchodlu Cymreig ac roedd  Leonard Perran Thomas yn gwasanaethu gyda’r Corfflu Signalau Brenhinol .

Cafodd y tri eu saethu’n farw gan ddyn arfog yn gwisgo lifrai  heddlu Afghanistan. Fe ddigwyddodd yr ymosodiad wrth ymyl siecbwynt yn Nhalaith Hemland.

Roedd Craig Roderick, 22, yn dod o Gaerdydd ac wedi bod yn aelod o’r Gwarchodlu Cymreig ers mis Medi 2009.

Fe ymunodd Apete Tuisovurua, 28, oedd yn dod o Fiji yn wreiddiol, â’r Gwarchodlu Cymreig ym mis Mehefin 2011.


Leonard Thomas
Roedd Leonard Perran Thomas, 44, ar ei daith olaf i Afghanistan ar ol bod yn gwasanaethu ers 1990.

Dywed y Weinyddiaeth Amddiffyn bod y dyn sy’n gyfrifol am yr ymosodiad yn cael ei gadw yn y ddalfa.

Deellir ei fod yn aelod o gangen arbennig o heddlu Afghanistan ers naw mis. Roedd wedi bod yn Helmand ers deufis.