Lesley Griffiths
Mae’r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, wedi bod yn amlinellu ei chynlluniau ar sut y gall mynediad i wasanaethau meddygon teulu ledled Cymru gael eu gwella.

Byddai’r ffocws ar wneud apwyntiadau’n fwy cyfleus i bobl sy’n gweithio, meddai.

Yn ystod y cam cyntaf, sydd eisoes ar y gweill, byddai apwyntiadau yn cael eu haildrefnu yn ddiweddarach yn y dydd, rhwng 5 a 6.30pm. Bydd apwyntiadau ar gael yn gynharach yn y bore hefyd lle bo angen, a bydd llai o feddygfeydd yn cau am hanner diwrnod neu’n cau dros ginio.

Bydd yr ail gam yn canolbwyntio ar apwyntiadau gyda’r nos, ar ôl 6.30pm.

Ar hyn o bryd, dim ond 12% o’r meddygfeydd sydd ar agor ar ôl 6.30pm. Mae’r Byrddau Iechyd yn ail edrych ar hyn a rhagwelir y bydd 30% o’r meddygfeydd yn cynnig agor ar ôl 6.30pm erbyn 2013-14. Erbyn Mawrth 2016, y disgwyl ydi y bydd y ffigwr wedi codi i 50%.

Bydd y trydydd cam yn sicrhau y caiff apwyntiadau eu trefnu ar gyfer y penwythnos.

Meddai Lesley Griffiths: “Mae meddygon teulu eisoes dan gontract i weithio rhwng 8am a 6.30pm, felly yn ystod cam cyntaf gwella mynediad i’w gwasanaethau mae’r pwyslais ar aildrefnu apwyntiadau o fewn yr oriau hynny.

“Unwaith y byddwn wedi ei gwneud yn haws i bobl weld eu meddyg yn ystod yr oriau craidd hyn, ac wedi lleihau ymhellach eto nifer y meddygfeydd sy’n cau am hanner diwrnod neu dros ginio, byddwn yn ceisio ymestyn nifer yr apwyntiadau y gellir eu trefnu y tu allan i’r oriau a gontractiwyd.

“Ein bwriad yw cyflawni’r ymrwymiad hwn o fewn cyllidebau presennol, a pharhau i drafod yn rheolaidd â Chymdeithas Feddygol y BMA, Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru a’r Byrddau Iechyd i sicrhau bod y mynediad yn gwella i ddiwallu anghenion y cleifion.

“Hoffwn atgoffa cleifion fod y cyfrifoldeb arnyn nhw hefyd i ganslo apwyntiadau os nad oes modd iddyn nhw fod yn bresennol, fel y gellir cynnig yr apwyntiadau hynny i eraill sydd am weld eu meddyg teulu. Mae’n hanfodol nad yw amser gwerthfawr y meddygon teulu’n cael ei wastraffu ac rwy’n llwyr gefnogi’r camau sy’n cael eu cymryd gan y Byrddau Iechyd a’r meddygfeydd i sicrhau nad yw hynny’n digwydd.”

Ond mae arolwg o feddygon teulu yng Nghymru yn dangos fod dros wyth o bob deg ohonyn nhw’n gwrthwynebu cynlluniau Llywodraeth Cymru i wneud yn siŵr fod meddygfeydd yn agor gyda’r nos ac ar benwythnosau.

Cynhaliwyd yr arolwg o feddygon teulu fel rhan o ymchwil ar ran plaid y Democratiaid Rhyddfrydol.

Mae arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru, Kirsty Williams, eisoes wedi dweud fod y Blaid Lafur ddim wedi ystyried eu polisïau yn ofalus cyn eu cyflwyno.

“Gyda chynllun Llafur, cynllun sydd ddim wedi ei feddwl allan yn glir, does yna ddim ymgynghori wedi bod gyda’r meddygon teulu. Does ʼna neb wedi gofyn iddyn nhw pa mor fforddiadwy, a pha mor ymarferol, yw’r cynllun hwn,” meddai.