Bydd 117 o swyddi’n diflannu yn yr Wyddgrug  ar ôl i gwmni cynnyrch glanhau adnabyddus gyhoeddi eu bod nhw’n cau eu ffatri yn y dre.

Dywedodd cwmni Jeyes y bydden nhw’n cau’r ffatri sydd wedi bod yn cynhyrchu deunyddiau glanhau ar Stad Ddiwydiannol Bromfielder ers 1979.

Bydd y ffatri’n cau yn gynnar y flwyddyn nesaf wrth i’r cynhyrchu gael ei symud i ffatri Jeyes yn Thetford, Norfolk.

Roedd y cwmni wedi cyhoeddi’r flwyddyn ddiwethaf eu bod nhw’n ymgynghori â’r staff yn dilyn adolygiad.

Dywedodd Aelod Cynulliad Delyn, Sandy Mewies wrth y BBC y bydd cau’r ffatri yn “ergyd fawr” i’r ardal.