Mae dau o bobl wedi cael eu hachub gan hofrennydd o’r Moray Firth yn yr Alban ar ol i ddwy jet Tornado fod mewn gwrthdrawiad.
Mae’n debyg bod y ddwy jet yn dod o safle’r Llu Awyr yn Lossiemouth.
Dywed y Weinyddiaeth Amddiffyn bod un o’r jetiau wedi cael ei gweld yn y dwr, a bod y llall “ar goll”.