Andrew RT Davies
Gwariodd Llywodraeth Cymru £2m ar gynnal a chadw 34 gwefan dros gyfnod o dair blynedd, datgelwyd heddiw.
Mae’r ffigyrau a aeth i ddwylo Ceidwadwyr Cymru yn dangos bod gwariant ar gynnal y gwefannau, a chostau caledwedd a meddalwedd wedi, cynyddu 20% mewn dwy flynedd.
Cynyddodd y gost o gynllunio diwyg y gwefannau 150% yn ystod yr un cyfnod.
Dywedodd arweinydd yr wrthblaid, Andrew RT Davies, ei fod yn “derbyn pwysigrwydd y gallu i gael gafael ar wybodaeth ar-lein”.
“Serch hynny rhaid gofyn cwestiynau am werth am arian pan mae costau yn codi 20%,” meddai.
“Mae dwy filiwn o bunnoedd yn swm uchel iawn er mwyn hybu gwaith Llywodraeth Cymru ac mae angen i drethdalwyr ofyn a ydyn nhw’n cael gwerth eu harian.
“Mae’n bosib mai dim ond rhan fach o’r gost derfynol yw hyn, gan nad ydw’n cynnwys rhai costau technoleg gwybodaeth eraill.”
Dywedodd y gweinidog cyllidol, Jane Hutt, bod y costau yn cynnwys holl wefannau’r Llywodraeth, gan gynnwys prif wefan Llywodraeth Cymru, yn ogystal â gwefannau gan gynnwys Cadw a Gwlad sy’n darparu gwasanaethau eraill ar gyfer y cyhoedd.