Roger Wilyman
Mae’r heddlu wedi cadarnhau eu bod nhw wedi dod o hyd i gorff Roger Wilyman ar draeth yn Ynys Môn.

Diflannodd y tad i ddau, oedd yn 61 oed, yn dilyn cyfarfod busnes ar 18 Mai. Roedd yn arolygwr gwledig â chwmni Jones Peckover yn sir Ddinbych.

Mae gweithwyr y cwmni wedi talu teyrnged i’r dyn o Lanfair Talhaiarn ger Abergele.

Cafodd ei weld y tro olaf yn gadael bwyty Rhos Fynach yn Llandrillo yn Rhos tua 8.15pm nos Wener, 18 Mai.

Roedd ei deulu wedi cysylltu â’r heddlu yn hwyr nos Wener pan fethodd a dychwelyd adref. Cafwyd hyd i’w gar yn ddiweddarach ym Mae Trearddur ar Ynys Môn.

Roedd yr heddlu wedi ymuno â chriwiau’r bad achub, gwylwyr y glannau, hofrenyddion a chŵn  i chwilio’r ardal ond ni chafwyd hyd iddo.

Daeth cerddwyr o hyd i’w gorff mewn ogof ger Bae Trearddur ar 23 Mehefin a galw’r heddlu. Cadarnhaodd profion DNA ddoe mai corff Roger Wilyman ydoedd.

Dywedodd David Lloyd Jones o Jones Peckover bod pawb yn y swyddfa “wedi torri eu calonnau”.

“Roedd yn gydweithiwr annwyl oedd yn uchel ei barch,” meddai wrth bapur newydd y Daily Post.

“Roedd wedi gweithio yma am 42 mlynedd, ac rydyn ni wedi bod yn bartneriaid yn y cwmni ers 1984.”