Mae adroddiadau y gallai un o fataliynau catrawd y Cymry Brenhinol ddiflannu o ganlyniad i adolygiad Llywodraeth San Steffan i’r fyddin.
Y gred yw y bydd 2il fataliwn y Cymry Brenhinol yn cael ei ddileu pan fydd y penderfyniad terfynol yn cael ei gadarnhau ddydd Iau nesaf.
Daw hyn wedi pryderon y byddai Gwarchodlu Marchfilwyr 1af y Frenhines, y ‘Marchoglu Cymreig’, yn cael ei ddileu.
Y gred yw na fydd hynny yn digwydd os yw un o fataliynau catrawd y Cymry Brenhinol yn cael mynd.
Mae pryder y bydd hynny’n golygu rhagor o golli swyddi – mae tua 350 o filwyr yn rhan o Warchodlu Marchfilwyr y Frenhines, ond 700 yn rhan o 2il fataliwn y Cymry Brenhinol.
Mae arweinwyr y Ceidwadwyr a’r Democratiaid Rhyddfrydol yn y Cynulliad wedi galw am gadw Gwarchodlu Marchfilwyr y Frenhines.
Dywedodd ffynhonnell o’r Weinyddiaeth Amddiffyn a San Steffan wrth bapur newydd y Western Mail bod Gwarchodlu Marchfilwyr y Frenhines yn debygol o oroesi’r adolygiad.
Mae Llywodraeth San Steffan yn bwriadu torri maint y fyddin o tua 100,000 i tua 82,000 o filwyr.
Dywedodd Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, nad oedd penderfyniad wedi ei wneud eto.