Dinbych-y-Pysgod
Mae’r heddlu wedi cyhuddo dyn 33 oed o ardal Castell-nedd yn dilyn cyfres o fyrgleriaethau yn Ninbych-y-pysgod.

Fe fydd yn ymddangos o flaen Llys Ynadon Llanelli heddiw ac mae’r heddlu wedi gofyn iddo gael ei gadw yn y ddalfa.

Mae’r heddlu wedi sefydlu ystafell arbennig yng ngorsaf heddlu Ninbych-y-pysgod, sy’n ymchwilio i’r byrgleriaethau.

Mae Swyddogion Heddlu Cymdogaethau Lleol wedi bod yn cynnal patrolau ychwanegol dros yr wythnosau diwethaf er mwyn rhoi cymorth a thawelu meddwl y cyhoedd, medden nhw.

Pwysleisiodd yr heddlu bod byrgleriaethau o’r fath yn bethau prin yn Sir Benfro, ond eu bod nhw’n cydnabod effaith troseddau o’r fath ar bobol leol ac y byddwn nhw’n eu trin fel blaenoriaeth bob tro.

Dylai unrhyw un sydd â gwybodaeth am y troseddau ffonio 101.