Bydd Aelodau’r Cynulliad yn trafod gostwng yr oedran pleidleisio yn ystod dadl dydd Mercher nesaf, er nad oes gan y Cynulliad y pŵer i newid yr oedran.

Mae cynnig trawsbleidiol yn cynnig bod Cynulliad Cymru yn “cefnogi gostwng yr oedran pleidleisio i 16 oed ym mhob etholiad a refferendwm a gynhelir yng Nghymru.”

“Mae’n bwysig i ddemocratiaeth bod pob rhan o gymdeithas yn cael llais ac yn cael ei chynrychioli’n llawn” meddai un o’r cynigwyr, Julie Morgan, Aelod Cynulliad Gogledd Caerdydd

“Rwy’n credu’n gryf y byddai gostwng yr oed pleidleisio yn helpu i ymgysylltu pobol ifanc â’r penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau”

Mae’r Pwyllgor Busnes wedi dewis y cynnig ar gyfer dadl Aelodau Unigol.

Dywedodd llefarydd ar ran y Cynulliad mai nod y ddadl yw “adlewyrchu safbwynt y Cynulliad ar fater oedran pleidleisio” gan nad oes gan y Cynulliad y pŵer i ddeddfu ar y pwnc.