Fe all rhieni plant sy’n chwarae triwant o’r ysgol yn gyson wynebu dirwy o dan gynlluniau diweddaraf Llywodraeth Cymru.

Gofynnodd Gweinidog Addysg Cymru, Leighton Andrews, i swyddogion greu rheolau i roi dirwy hyd at £120 i rieni plant sy’n absennol o’r ysgol heb ganiatâd.

Mae polisi cyffelyb wedi bod ar waith mewn rhannau o Loegr ers 2004.

Yn y gorffennol mae Llywodraeth Cymru wedi dweud nad yw dirwyon penodol i rieni yn cyd-fynd â’u polisïau.

Dywed Leighton Andrews bod taclo triwantiaeth yn un o’i flaenoriaethau er mwyn gwella cyrhaeddiad addysgiadol plant Cymru.

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru, “Mae’r Gweinidog Addysg wedi codi pryderon am lefel yr absenoldebau yn ysgolion Cymru.

“Rydym yn ystyried sut i gyflwyno rhybudd dirwyon i rai sy’n absennol yn gyson yn ein hysgolion a sut y byddai hyn yn gweithio ochr yn ochr â strategaethau sydd eisoes yn bodoli.

“Rydym yn bwriadu cyhoeddi ymgynghoriad llawn ar hyn ym mis Medi yn lle mae’r system o rybuddion dirwyon yn bodoli ac fe fyddwn yn cyhoeddi mwy o fanylion yn fuan,” ychwanegodd y llefarydd.

‘Targedu’r mwyaf bregus’

Mewn ymateb i gynigion diweddaraf Llywodraeth Cymru, dywedodd llefarydd Plaid Cymru ar addysg, Simon Thomas, “Mae  Llywodraeth Cymru yn honni ei bod yn ‘blaenoriaethu anghenion y tlotaf ac yn amddiffyn y rhai sydd mewn mwyaf o berygl tlodi ac eithrio’. Sut mae targedu’r mwyaf bregus mewn cymdeithas yn asio a hyn?

“Mae Llywodraeth Cymru wedi dweud o’r blaen nad yw cosb benodol i rieni yn gweddu i’w ‘polisïau cynhwyso’; beth sydd wedi newid ers hynny?” meddai’r Aelod Cynulliad.

Bu Simon Thomas yn gefnogol o awgrymiadau’r Athro Ken Reid, a oedd wedi dweud y buasai cyflwyno dirwyon yn taro’r teuluoedd tlotaf yng Nghymru.

“Yn hytrach na dirwyo, dylai Llywodraeth Cymru wneud mwy i gefnogi swyddogion cyswllt ysgolion, a chynyddu eu nifer fel y gallant gefnogi disgyblion a’u teuluoedd,” ychwanegodd Simon Thomas mewn datganiad.

Lefelau triwant yng Nghymru

Yn 2010/11 yng Nghaerdydd yr oedd y raddfa ucha’ o absenoldeb heb ganiatâd mewn ysgolion uwchradd (2.9%) tra bod y nifer isa’ yn Sir y Fflint, Powys a Chastell-nedd Port Talbot (0.5%).

O ran ysgolion cynradd roedd y raddfa ucha’ o 1.7% ym Mro Morgannwg a Chaerdydd, gyda’r isaf yn Sir Fynwy (0.2%).

Yn Lloegr mae’r rhybuddion dirwyon wedi bodoli ers 2004 ac fe gafodd 32,641 eu cyflwyno yn 2010/11, cynnydd o bron i 7,000 yn 2009/10 (25,657) ac fe gafodd 20,887 eu cyflwyno yn 2008/09.

Mae arolwg yn Lloegr a gyhoeddwyd gan yr Adran Addysg wedi dod i’r casgliad bod rhybuddion dirwyon penodol yn cael eu cysylltu gyda gwella presenoldeb yn y tymor byr ond bod hyn yn anoddach i’w gynnal yn yr hir dymor.

Er hynny, roedd yr astudiaeth yn dangos bod dros dri chwarter (79%) o’r rhai wnaeth ymateb yn gweld y rhybuddion fel bod “yn llwyddiannus iawn” neu yn “weddol lwyddiannus” i wella presenoldeb.