Llys y Goron yr Wyddgrug
Cafodd gyrrwr ei garcharu heddiw am achosi marwolaeth ei ffrind agos, ac anafu pedwar arall, mewn gwrthdrawiad car yn oriau mân y bore ym mis Mawrth.
Cafodd David Michael Doherty, 27, mab i un o sêr y gyfres deledu My Big Fat Gypsy Wedding, Paddy Doherty, ei garcharu am 3 blynedd a 10 mis a’i wahardd rhag gyrru am bedair blynedd wedi i Lys y Goron Yr Wyddgrug glywed iddo ffoi o’r safle ar ôl y ddamwain.
Bu farw James Loveridge, 38, oedd yn dad i bedwar o blant, yn y fan ar lle wedi i’w gar – Mitsubishi Shotgun – a oedd yn cael ei yrru gan David Doherty, daro yn erbyn fan am 4yb ar 18 Mawrth.
Roedd y tri arall a oedd yn teithio yn y sedd gefn – Thomas Ward, Paul Hulse a Mark Evans – wedi cael anafiadau difrifol.
Fe darodd y Mitsublishi Shotgun yn erbyn fan Renault a oedd wedi parcio mewn encilfa oddi ar yr A55 yn Nhalybont, Gwynedd gan adael gyrrwr y fan, Victor McClelland, a oedd yn cysgu yn y cefn, gydag anafiadau difrifol.
Mae Victor McClelland yn parhau i dderbyn triniaeth am ei anafiadau mewn ysbyty arbenigol yn Stoke-on-Trent.
Er gwaetha’r ymdrechion i ddal Doherty, fe lwyddodd i redeg i ffwrdd o’r safle , dwyn Landrover Discovery, a gyrru’n nôl i Lannau Dyfrdwy lle’r oedd yn byw gyda’i deulu ar safle i deithwyr yn Queensferry.
Pan gafodd ei arestio, fe wadodd mai ef oedd yn gyrru’r car ond fe newidiodd ei ble ar ôl i olion DNA gael eu darganfod yn y Mitsublishi Shotgun a’r Landrover Discovery roedd wedi ei ddwyn.
Roedd Doherty wedi cyfaddef i gyhuddiad o achosi marwolaeth drwy yrru’n ddiofal ar 18 Mawrth, ac wedi cyfaddef i yrru tra wedi’i wahardd, a hynny heb yswiriant, ac o fethu â stopio wedi’r ddamwain.
Roedd hefyd wedi cyfaddef iddo yrru’r Landrover heb ganiatâd a heb yswiriant, yn ogystal â phledio’n euog i ddigwyddiad ar wahân o yrru’n beryglus ym Manceinion fis Mai’r llynedd, ynghyd â throseddau gyrru eraill.