Mae’r cyn-Dwrnai Cyffredinol wedi bod yn rhoi tystiolaeth gerbron pwyllgor yn y Cynulliad sy’n edrych ar sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i Gymru.

Dywedodd yr Arglwydd John Morris, a fu’n Ysgrifennydd Gwladol i Gymru ac yn Aelod Seneddol dros Aberafan, ei fod wedi rhagweld y byddai’r gost o sefydlu awdurdodaeth gyfreithiol i Gymru yn “sylweddol” ond nad oedd modd amcangyfrif y gost yn fanwl eto.

Mae’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y Cynulliad yn cynnal ymchwiliad er mwyn trafod creu trefn gyfreithiol ar wahân yng Nghymru am y tro cyntaf ers bron 500 mlynedd.

Daw hyn yn dilyn rhoi’r pwerau i’r Cynulliad greu deddfau ar gyfer Cymru yn unig ar ôl i bobol Cymru roi sêl bendith i hynny mewn refferendwm ym mis Mawrth 2011.

Angen diffinio Awdurdodaeth Gyfreithiol

Dywedodd John Morris ei fod yn “ddatganolwr” ond ychwanegodd nad oedd yn eglur ynglŷn â’r hyn sydd ynghlwm wrth “awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân”.

“Nid wyf ar ben fy hun yn hyn o beth gan mai dyna yw cwestiwn cyntaf y Pwyllgor.

“Oni bai bod Cymru’n mynd yn annibynnol ni all dim fod yn hollol ar wahân.

“Mae fyny i’r sawl sy’n pledio ‘awdurdodaeth Gyfreithiol Annibynnol’ i osod allan yr hyn maen nhw’n ei olygu, yn hytrach na bod yr ymgynghorwyr yn dyfalu,” meddai John Morris.

John Morris oedd y Twrnai Cyffredinol yn Llywodraeth Tony Blair a dywedodd nad oedd ganddo gof o unrhyw drafferth yn codi o’r ffaith fod gan Ogledd Iwerddon awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân.

Mae Ysgrifennydd Gwladol Cymru, Cheryl Gillan, wedi codi amheuaeth dros yr angen i Gymru gael awdurdodaeth gyfreithiol ar wahân i’r hyn sy’n bodoli yn Lloegr.