Y Comediwr Jimmy Carr
Mae swyddfeydd Cyllid a Thollau yng Nghymru ymhlith y rheini sydd wedi cau ledled Prydain oherwydd streic gan ddegau o filoedd o weithwyr heddiw.

Yng Nghymru y mae rhai o’r canrannau uchaf o weithwyr sydd ar streic, gyda 95% yng ngogledd Cymru, 93% yng Nghaerdydd, 85% yng Nghaerfyrddin ac 80% yn Abertawe yn cefnogi’r gweithredu diwydiannol.

Maen nhw’n protestio yn erbyn toriadau swyddi sylweddol sydd, yn eu tyb nhw, yn tanseilio’r ymdrechion i gwtogi ar gynlluniau sy’n helpu pobl i osgoi talu trethi, fel yr un roedd y comedïwr Jimmy Carr yn perthyn iddo a oedd wedi corddi’r dyfroedd wythnos ddiwethaf.

Mae disgwyl i 10,000 o swyddi gael eu colli.

Mae’n debyg bod £120 biliwn yn cael ei golli’n flynyddol yn sgil y fath gynlluniau ac mae corff PCS yn honni nad oes gan yr Adran Gyllid a Thollau’r adnoddau i ymateb i’r broblem.

‘Preifateiddio’

Mae’r streic hefyd yn targedu preifateiddio graddol o fewn yr adran, sy’n defnyddio cwmnïau preifat i ddelio ag ymholiadau ynghylch credyd treth.

Dywedodd ysgrifennydd cyffredinol PCS, Mark Serwotka: “Mae’n arwyddocaol dros ben fod y streic yn digwydd ar yr un diwrnod ag y mae’r Prif Weinidog yn bygwth rhagor o doriadau lles, gan ei fod yn dangos bod yn well gan ei Lywodraeth dargedu pobl sy’n derbyn budd-daliadau yn lle mynd ar ôl y rheini sy’n osgoi talu trethi.

“Allai’r ddadl dros fuddsoddi yn hytrach na rhagor o doriadau, fel ateb amgen i galedi ariannol, ddim bod yn gliriach nag yn HMRC lle mae’r arian ry’n ni’n ei gasglu’n ariannu’r holl wasanaethau cyhoeddus eraill rydym yn dibynnu arnynt, ac mae’n cynnig cefnogaeth i bobl pan fo’i hangen arnynt.”