Mae’r corff sy’n arolygu gwaith yr heddlu wedi beirniadu agweddau o waith heddluoedd Cymru wrth fynd i’r afael ag ymddygiad gwrth-gymdeithasol .

Dywed  Arolygiaeth Cwnstabliaeth ei Mawrhydi fod heddluoedd Cymru a Lloegr ar y cyfan wedi gwella’r gwasanaeth i’r rheiny sy’n dioddef dan ymddygiad gwrth-gymdeithasol ond bod y gwasanaeth yn amrywio o lu i lu.

De Cymru

Dywed adroddiad Cam i’r Cyfeiriad Cywir nad oes digon o bwyslais  gan Heddlu De Cymru ar gynorthwyo dioddefwyr ymddygiad gwrthgymdeithasol bregus a’r rhai sy’n dioddef dro ar ôl tro.

Yn ôl yr adroddiad, “cyfyngedig yn unig” oedd yr ystyriaeth i faterion ymddygiad gwrthgymdeithasol a bod gwybodaeth ar berfformiad yr heddlu wrth daclo’r ymddygiad yn brin.

Mewn ymateb mae Heddlu De Cymru wedi dweud fod ganddyn nhw bartneriaethau cymunedol cryf sy’n darparu darlun “mwy crwn” o’r hyn maen nhw’n ei wneud i ddelio gydag ymddygiad gwrthgymdeithasol.

“Yn Ne Cymru rydym ni wedi cynyddu natur leol ein plismona,” meddai’r  Prif Gwnstabl Cynorthwyol Julian Kirby.

“Yn benodol rydym ni wedi rhoi swyddogion cymdogaeth a swyddogion sydd ar batrol dan yr un reolaeth ac mae hyn wedi gwella ein gallu i blismona ymddygiad gwrthgymdeithasol

Gwent

Yn ôl yr adroddiad mae tri chwarter pobol yr ardal yn teimlo bod ymddygiad gwrthgymdeithasol yn “broblem fawr” a bod mwyafrif y trigolion a holwyd wedi dioddef ar fwy na thri achlysur yn y flwyddyn ddiwethaf

Dywedodd bron i hanner y rhai a holwyd eu bod yn teimlo fod ofn ymddygiad

gwrthgymdeithasol yn effeithio ar eu patrwm dyddiol.

“Dylai’r heddlu edrych ar wella yn y meysydd hyn” oedd sylw’r adroddiad.

Gogledd Cymru

Mae’r adroddiad yn feirniadol o’r heddlu am nad oedd un ffordd safonol o gofnodi ymddygiad gwrthgymdeithasol ac felly nad oes modd mesur cynnydd yn y maes.

Dywed yr adroddiad fod y “Dirprwy Brif Gwnstabl wedi cytuno i adolygu dulliau’r heddlu o gofnodi ymddygiad gwrthgymdeithasol” a gallu’r  heddlu i adnabod pobol fregus sy’n dioddef dro ar ôl tro.”

Dyfed Powys

Roedd yr adroddiad yn canmol agweddau o waith yr heddlu, ac yn nodi fod sefydlu parthau di-alcohol, megis yn Aberystwyth, wedi lleihau nifer y cwynion am ymddygiad gwrthgymdeithasol.