John Walter Jones
Mae Is-gadeirydd Awdurdod S4C, Rheon Tomos, wedi gwadu iddyn nhw ddarllen llythyr ‘preifat’ at y cyn-gadeirydd John Walter Jones.
Ar raglen Gwilym Owen Radio Cymru yr wythnos diwethaf, dywedodd John Walter Jones ei fod wedi gwylltio mewn cyfarfod ar ôl i aelod o’r awdurdod ddarllen llythyr personol ato.
Roedd wedi derbyn y llythyr gan yr Ysgrifennydd Diwylliant, Jeremy Hunt, ar ôl mynd i’w weld er mwyn dweud ei fod yn bwriadu ymddeol ym mis Mawrth.
Dywedodd Rheon Tomos nad oedd yna unrhyw beth ar y llythyr yn awgrymu ei fod yn breifat a’i fod wedi ei gyfeirio at yr Awdurdod.
“Roedd y llythyr wedi ei gyfeirio at yr awdurdod, ac yn ôl y drefn arferol fe agorwyd y llythyr,” meddai Rheon Tomos wrth Golwg 360.
“Doedd yna ddim byd ar yr amlen oedd yn dweud ei fod yn gyfrinachol ac nad oedd o i’r staff.
“Doedd o ddim yn dweud ‘Preifat’ ar yr amlen.”
Roedd John Walter Jones wedi dweud ar raglen Gwilym Owen ei fod wedi cerdded allan o’r cyfarfod ar ôl i’r llythyr gael ei ddarllen a bod aelodau eraill yr Awdurdod wedi camgymryd ei fod wedi ymddeol.
“Es i weld Mr Hunt, wnaethon ni benderfynu fy mod i’n ymddeol ddiwedd mis Mawrth. Fe ges i lythyr personol gan Mr Hunt ar ôl y cyfarfod,” meddai John Walter Jones.
“Mi ffeindies i’r llythyr, wedi ei agor ar fy nesg yn S4C. Fedra i ddim dweud wrthoch chi beth oedd ar yr amlen, ond roedd y llythyr wedi ei agor.
“Roedd hyn ddydd Gwener. Erbyn dydd Llun fe es i gyfarfod yng Nghaernarfon. Fe ddarllenwyd y llythyr allan gan aelod o’r Awdurdod.
“Y cwbl oedd o, yn llawysgrifen yr Ysgrifennydd Gwladol, oedd llythyr yn diolch i mi am fy ngwaith yn S4C.
“Roedd o’n llythyr personol, a pan welais i hwnnw, yn cael ei ddarllen yn fanno, wedi ei gopïo. Do, es i’n wyllt, ac mi gerddais i allan.
“Erbyn i mi gyrraedd adref i Fangor, ryw chwarter awr, tri chwarter yn ddiweddarach, roedd y stori allan mod i wedi mynd. Doeddwn i ddim wedi cymryd penderfyniad.”