Carwyn Jones
Mae Carwyn Jones wedi dweud fod croeso i longau tanfor niwclear Prydain gael eu cadw yn Aberdaugleddau.

Gwnaeth ei sylwadau brynhawn yma ar lawr y Senedd yn ystod cwestiynau’r Prif Weinidog. Dywedodd y byddai “mwy na chroeso i longau tanfor niwclear Prydain a 6,000 o swyddi i Aberdaugleddau.”

Mae Plaid Genedlaethol yr Alban wedi dweud y byddan nhw’n cael gwared â’r llynges danfor, sy’n cario taflegrau niwclear Trident, os caiff yr Alban annibyniaeth. Maen nhw’n cael eu cadw ar hyn o bryd yn Faslane ar aber y Clyde.

Os digwydd hynny, dywedodd adroddiad yn gynharach eleni mai’r unig ddau borthladd addas ar gyfer y llynges fyddai Devonport yn ne Lloegr neu Aberdaugleddau yn Sir Benfro. Mae ymgyrchwyr wedi nodi’r perygl o osod taflegrau niwclear mewn porthladd sydd eisoes yn gartref i burfeydd olew a chanolfan nwy LNG.

Ymateb ffyrnig

Mae ymateb ffyrnig wedi bod i ddatganiad Carwyn Jones.

“Mae Aberdaugleddau yn ganolfan ynni anferth. Nid yw nukes a nwy LPG yn mynd gyda’i gilydd” meddai Jonathan Edwards, Aelod Seneddol Dwyrain Caerfyrddin a Dinefwr.

Dywedodd Simon Thomas AC nad oes gan y Prif Weinidog “amcan o realiti os yw wir yn credu fod pobl Cymru eisiau gweld storio arfau niwclear yng Nghymru.”

“Llawer gwell i Gymru fuasai i lywodraeth y DG wneud yr hyn y bu Plaid Cymru’n galw amdano ers amser – dileu prosiect Trident yn gyfan gwbl, a gwario’r gost enfawr ar gynlluniau creu gwaith realistig i hybu ein heconomi.

“Mae Llywodraeth Cymru newydd gyhoeddi eu bod eisiau gwarchod pysgota yn y dyfroedd o gwmpas Aberdaugleddau, ond maent eisiau hefyd gwahodd llongau tanfor niwclear rhydlyd i’r un dyfroedd; dyma ddarlun perffaith o’r modd diog mae’r llywodraeth hon yn llunio polisi.”

‘Canu cân y Torïaid yn Llundain’

Dywedodd Ray Davies o CND Cymru fod sylwadau Carwyn Jones yn “warthus.”

“Nid yw mwyafrif pobol Cymru eisiau dim oll i wneud gyda niwclear ond yn anffodus mae e’n canu cân y Torïaid yn Llundain.

“Mae Carwyn Jones fod yn gynrychiolydd cenedl Cymru ac rwyf wedi fy siomi’n arw gan ei sylwadau heddiw.”