Mae angen mwy o gefnogaeth i ofalwyr yng Nghymru, yn ol Aelod Cynulliad a llefarydd Plaid Cymru ar iechyd, Elin Jones.

Mae Elin Jones yn dadlau fod gofalwyr yn cael eu taro’n arbennig o galed gan fesurau’r Llywodraeth yn San Steffan.

“Yng Nghymru, mae Plaid Cymru wedi pledio achos hawliau gofalwyr ers amser ac wedi cefnogi’r mesur Strategaeth Gofalwyr,” meddai Elin Jones AC  ar ddechrau Wythnos y Gofalwyr.

“Rydym eisiau gweld mwy o gefnogaeth yn cael ei ddarparu i ofalwyr fel mater o frys yn wyneb rhaglen doriadau Llywodraeth y Deyrnas Gyfunol.

“Cam tymor byr ac anystyrlon yw torri ar yr hyn y mae gan ofalwyr hawl iddo gan eu bod mewn gwirionedd yn arbed symiau enfawr i’r GIG ac i ofal cymdeithasol – hebddynt hwy, buasai’r system gyfan fwy na thebyg yn dymchwel.

“Mae angen i Lywodraeth Cymru gyfoesi’r Strategaeth Gofalwyr i adlewyrchu newidiadau, a gofalu fod pob awdurdod lleol yn cydymffurfio ac yn datblygu cynlluniau i wella’r gefnogaeth i ofalwyr.

“Rydym hefyd eisiau gweld gwelliannau i wasanaethau a darpariaeth gofal cymdeithasol lleol fel y gall gofalwyr gael seibiant os mynnant, a gwneud dewisiadau gwirioneddol am gyfuno gwaith a gofalu.”