Nikitta Grender
Mae’r heddlu wedi cael rhagor o amser i holi cyn filwr am lofruddiaeth Nikitta Grender yng Nghasnewydd.

Neithiwr, fe gytunodd ynad lleol y byddai Heddlu Gwent yn cael cadw Carl Whant yn y ddalfa tan chwech o’r gloch bore fory.

Fe gafodd y dyn 26 oed, sy’n gyfyrder i gariad y ferch feichiog 19 oed, ei arestio ddydd Mercher wrth i’r heddlu ymchwilio i’r llofruddiaeth yn ardal Llyswyry.

Maen nhw hefyd yn dal i chwilio am ffôn symudol Nikitta Grender – ffôn Samsung Tocco SF80 – yn y gobaith y bydd tystiolaeth ar hwnnw.

Ymateb da

Ond mae yna ymateb da wedi bod wrth iddyn nhw geisio cael gafael ar bobol mewn lluniau ar gamerâu cylch cyfyng.

Mae tri o’r pedwar wedi cysylltu ac mae arweinydd yr ymchwiliad, y Ditectif Uwch-arolygydd Geoff Ronayne yn apelio ar i’r pedwerydd gysylltu hefyd.

Fe allai gynnig “tystiolaeth dyngedfennol”, meddai.