Fe allai gymryd hyd at flwyddyn i Gyngor Ceredigion gael yr hawl i reoli parcio yn y sir.

Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau na fyddan nhw’n parhau i reoli parcio ar draws canolbarth Cymru o 31 Mai ymlaen, ac mae Cyngor Sir Powys eisoes wedi addo ysgwyddo’r baich.

Ond mae Cyngor Sir Ceredigion yn pryderu y bydd yn costio gormod iddyn nhw fabwysiadu’r cyfrifoldeb dros barcio anghyfreithlon, ac y bydd gwneud cais am yr hawl i wneud hynny yn cymryd tua blwyddyn.

Ddechrau’r wythnos dywedodd un cynghorydd wrth Golwg 360 y bydd yna “pandemonium” ar y strydoedd os nad yw’r cyngor yn dod i benderfyniad yn fuan.

Mae’r Cabinet yn mynnu mai cyfrifoldeb yr heddlu ydi rheoli parcio ceir, ac y bydd yn costio £169,000 iddyn nhw fabwysiadu’r system.

“Os yw’r cyngor yn penderfynu mabwysiadu’r pwerau, fe fydd yn cymryd 12 mis i’r pwerau gael eu trosglwyddo i’r Cyngor Sir,” meddai llefarydd ar ran y cyngor.

“Ond dyw Cabinet Cyngor Ceredigion heb benderfynu eto a fyddan nhw’n mabwysiadu’r pwerau.”

Fe fydd y Cabinet yn ystyried y mater ym mis Mawrth, meddai.

“Nes bod hynny’n digwydd Heddlu Dyfed Powys fydd â’r cyfrifoldeb dros barcio anghyfreithlon ar y ffyrdd.”

Serch hynny mae Heddlu Dyfed Powys eisoes wedi dweud wrth eu wardeniaid traffig na fydd swyddi iddyn nhw ar ôl 31 Mai.

Cadarnhaodd llefarydd ar ran y cyngor “na fydd yna wardeiniaid traffig yng Ngheredigion ar ôl y dyddiad hwnnw”.

“Serch hynny mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau y bydden nhw’n mynd i’r afael â pharcio anghyfreithiol os yw’n achosi rhwystr.”