Gwibdaith dan do heno
Mae gig Gwibdaith Hen Frân ac eraill wedi ei symud o Faes Caernarfon i Glwb Nos Cofi Roc, oherwydd y tywydd uffernol.

Bu bandiau’n chwarae ar y Maes gydol yr wythnos, er mwyn ceisio denu rhai o ffyddloniaid yr Urdd draw o Lynllifon i flasu pleserau Tref Frenhinol Caernarfon.

Yr atyniadau eraill yng Nghlwb Cofi Roc heno fydd y Moniars, Geraint Lovgreen, Bad Moon, Something Personal, Wil Williams a Rhys Morris.

Trefnwyd Miwsig ar y Maes gan Siambr Fasnach Caernarfon gyda chymorth y Cyngor Tref a Chyngor Gwynedd.