Tref Llangollen
Mae gwleidydd lleol yn cyhuddo cyngor sir Wrecsam o ‘ddympio’ pobol ddigartre’ yn nhref dwristaidd Llangollen.

Yn ôl y Cynghorydd Stuart Davies o’r dre’ yn Sir Ddinbych, mae Cyngor Bwrdeistref Wrecsam yn gosod pobol yn un o westai’r dref, gan ddweud nad oes yr un o fusnesau gwely a brecwast eu hardal nhw yn fodlon eu cymryd.

Mae’n honni bod y bobol yn anystywallt ac yn denu rhagor atyn nhw i’r dre’ i yfed a chamymddwyn mewn mannau cyhoeddus.

Mae Cyngor Wrecsam yn cydnabod eu bod yn gorfod gosod rhai pobol y tu allan i’r sir ond yn dweud eu bod yn gwneud eu gorau i ddod o hyd i lety lleol.

Pump o bobol

Roedd Stuart Davies wedi cael cadarnhad gan Gyngor Wrecsam fod pump o bobol wedi eu gosod yng ngwesty’r Royal yn Llangollen ac mae wedi dysgu wedyn fod wyth o bobol o Gaerdydd ac Abertawe wedi eu rhoi mewn llety arall.

“Mi ddylai Wrecsam eu gosod nhw yn eu llefydd gwely a brecwast eu hunain,” meddai’r Cynghorydd sy’n disgwyl adroddiad gan swyddogion Cyngor Sir Ddinbych fory.

Mae wedi gofyn faint o awdurdodau lleol eraill sy’n anfon pobol ddigartre’ i Langollen, gan rybuddio y gallai hynny arwain at ddirywiad yn y dref.

Dilyn y Rhyl?

“Fel hyn y dechreuodd problemau’r Rhyl,” meddai. “Mae’r Eisteddfod Gydwladol yn dod cyn bo hir, mae’n amhosib dychmygu beth fyddai’r argraff ar bobol.”

Mae’r Cynghorydd hefyd wedi gwneud cais rhyddid gwybodaeth i geisio ffeindio ai carcharorion sydd newydd eu rhyddhau yw’r dynion o Wrecsam.

Mewn datganiad, fe ddywedodd Marc Williams, Rheolwr Tai Strategol Cyngor Wrecsam eu body n cadw at eu dyletswydd cyfreithiol i geisio dod o hyd i lety dros dro i “ymgeiswyr digartref” ac, os nad oes dewis yn lleol, bod rhaid “mynd ymhellach”.

Dim ond 11% o’r holl ymgeiswyr yn Wrecsam oedd yn gorfod cael eu gosod y tu allan i’r sir ar hyn o bryd, meddai, ac fe rybuddiodd rhag stereoteipio pobl ddigartref “nac awgrymu bod pawb sy’n ddigartref yn ymddwyn yn wrthgymdeithasol”.

Doedd y Cyngor ddim yn gyfrifol am ymddygiad ymgeiswyr digartref, meddai.

Rhannau o ddatganiad Marc Williams

“Ein nod yw ceisio lleoli pobl leol yn y sir bob amser, gan gadw’r nifer sy’n cael llety y tu allan i ffiniau’r sir i’r isafswm lleiaf. Rydyn ni’n ystyried ystod o faterion, megis gallu plant yn y teulu i aros yn yr un ysgol.

“Mae awdurdodau lleol ar draws Cymru yn ymateb i gynnydd yn nifer y bobl sy’n wynebu digartrefedd. Yn aml mae’r rhain yn unigolion a theuluoedd bregus y mae arnynt angen cymorth ymarferol ag anghenion sylfaenol ar adeg anodd iawn yn eu bywyd.

“Lle bo ymddygiad unrhyw un sy’n aros mewn llety megis gwesty gwely a brecwast yn annerbyniol, gall darparydd y llety ddewis ein hysbysu nad yw’n dymuno bod yn ddarparydd llety i ni mwyach.”