Bradley Manning
Mae’r milwr o Gymro sydd wedi ei gyhuddo o un o’r achosion mwya’ erioed o ollwng gwybodaeth gyfrinachol yn ôl o flaen llys heddiw.

Fe fydd cyfreithwyr ar ran Bradley Manning yn gofyn i lys milwrol yn yr Unol Daleithiau ollwng deg o’r 22 cyhuddiad yn ei erbyn.

Mae’r dyn 24 oed wedi ei gyhuddo o ollwng cannoedd o filoedd o ffeiliau cyfrinachol i wefan wybodaeth Wikileaks. Roedd y rheiny’n ymwneud â rhyfeloedd Irac ac Afghanistan.

Fe fydd y cyfreithwyr yn dweud wrth y llys yn Fort Meade, Maryland, fod wyth o’r cyhuddiadau yn rhy niwlog a dau yn gwbl anghywir.

Y cefndir

Roedd Bradley Manning wedi’i eni yn yr Unol Daleithiau ond roedd ei fam yn dod o Gymru ac fe symudodd y ddau i Hwlffordd ar ôl i’r briodas dorri.

Mae yna ymgyrch i geisio’i ryddhau ar ddwy ochr yr Iwerydd gyda’i gefnogwyr yn ddweud ei fod wedi gollwng gwybodaeth sydd o bwys cyhoeddus.