Aled Sion
Mae Cyfarwyddwr Eisteddfod yr Urdd Eryri 2012 wedi ymddiheuro am y tagfeydd traffig ar ffordd A499 i bob cyfeiriad o’r maes yng Nglynllifon.
Wrth gyfarfod aelodau’r wasg fore heddiw, roedd Aled Sion yn dweud ei fod yn “ymddiheuro, ar ran y mudiad”, wedi i ymwelwyr a chystadleuwyr fod yn ciwio am hyd at dair awr wrth deithio i Glynllifon ddoe.
Fe fu cyfarfodydd arbennig rhwng yr Urdd, Heddlu Gogledd Cymru a swyddogion Cyngor Gwynedd, yn dilyn y trafferthion, meddai, ac mae trefniadau newydd yn eu lle bellach sy’n ceisio galluogi’r traffig i lifo’n rhwyddach.
Mae’r Urdd hefyd wedi rhyddhau datganiad heddiw yn gofyn i bobol sydd ddim am ymweld â’r wyl ieuenctid, i geisio osgoi’r ardal yn gyfan gwbwl.
“Dydd Mawrth, fel arfer, ydi diwrnod prysura’r wythnos, oherwydd y cystadlaethau torfol,” meddai Aled Sion. “Rydyn ni’n ymwybodol o’r trafferthion a’r anghyfleustra fu ddoe, ac rydyn ni’n gobeithio y bydd pethau’n well .
“Fe ddaeth chwe mil o geir i’r Eisteddfod ddoe, ac rydyn ni’n ymddiheuro am yr anghyfleustra.”
Dim effaith ar y llwyfan
Roedd “rhai cystadleuwyr, ac un neu ddau o feirniaid” wedi cael trafferth wrth geisio cyrraedd y Maes ddoe, ac roedd “ambell i ragbrawf yn rhedeg yn hwyr”, meddai Aled Sion.
Ond chafodd hynny ddim effaith o gwbwl ar yr eisteddfod lwyfan, meddai wedyn. Roedd honno wedi rhedeg ar amser, ac roedd yn hyderus y byddai hynny’n digwydd heddiw hefyd.
“Y cyngor i yrwyr ydi, dilynwch yr arwyddion, cychwynwch yn gynt, ac osgowch yr ardal yn gyfan gwbwl os nad ydych chi’n dod i’r Eisteddfod.”
Gadael Glynllifon
Doedd Aled Sion ddim mor barod i ymddiheuro am drafferthion eisteddfodwyr a fu, am bron i ddwyawr yn ceisio gadael maes parcio Glynllifon neithiwr.
“R’yn ni wedi gwneud addasiadau i’r cynllun i fynd allan hefyd,” meddai. “Mi oedd yna bobol o gwmpas ddoe er mwyn arwain pobol, ond mae yna fwy ohonyn nhw heddiw, a’r cwmni trafnidiaeth sydd wedi dod â nhw i mewn.”