Shane Williams
Sêr chwaraeon yw’r enwau amlyca’ i gael ymuno â Gorsedd yr Eisteddfod Genedlaethol – a’r rhai cynta’ mewn trefn newydd o wisgoedd.

Mae dau chwaraewr rygbi a dau gyn-chwaraewr pêl-droed yn cael eu hurddo i’r Wisg Las ynghyd â Phrif Weinidog Cymru.

O hyn ymlaen fydd dim gwahanol lefelau ar gyfer aelodau newydd ac fe fydd lliw’r wisg yn dibynnu ar faes yr aelod.

  • Fe fydd y Wisg Werdd ar gyfer pobol o faes y celfyddydau a rhai o enillwyr yr Eisteddfod ei hun.
  • Fe fydd y Wisg Las ar gyfer pobol o feysydd eraill a’r Wisg Wen yn cael ei chadw i enillwyr prif wobrau’r Eisteddfod.

Cyn hyn, roedd dwy lefel o aelodaeth a rhai’n cael eu dyrchafu o un i’r llall. Fydd hynny ddim yn digwydd bellach – y nod oedd cael trefn fwy cyfartal.


Huw Stephens
Yr aelodau amlwg newydd

Shane Williams a Stephen Jones yw’r ddau chwaraewr rygbi – y naill yn brif sgoriwr ceisiau Cymru ac yn ymddeol ar ôl gêm y Barbariaid ddydd Sadwrn, a’r llall wedi cael 104 o gapiau a bod yn ffigwr allweddol gyda rhanbarth y Scarlets.

Y ddau gyn-flaenwr rhyngwladol, John Hartson ac Iwan Roberts, yw’r ddau bêl-droediwr a’r ddau erbyn hyn yn ennill eu bara menyn trwy sylwebu.

Mae’r tenor ‘Eidalaidd’ Wynne Evans a Linda Griffiths, cantores Plethyn gynt, ymhlith y cerddorion sy’n derbyn y Wisg Werdd, a Huw Stephens y cyflwynydd Radio 1.

Flynyddoedd ar ôl iddi roi’r gorau i rôl Megan yn Pobol y Cwm, mae’r actores Lisabeth Miles hefyd yn ennill y Wisg Werdd.

Gwisg Las sydd i Carwyn Jones, y Prif Weinidog, ac mae pwyslais ar ei “ddiddordeb eang” yntau ym myd chwaraeon, “yn enwedig rygbi”.

Y rhestr lawn er anrhydedd

Gwisg Las

Eurfyl Bowen, Pontyberem, gweithiwr Eisteddfod

Betsi Griffiths, cyn-bennaeth Ysgol Gymraeg Tonypandy

Gwenda Griffith, teledu – cwmni Fflic

William Irfon Griffiths, Comnins Coch, Aberystwyth, gwenynwr

John Hartson, cyn bêl-droediwr rhyngwladol

Bethan Wyn Jones, naturiaethwraig

Carwyn Jones, Prif Weinidog

Elin Ellis Jones, seiciatrydd

Gareth Davies Jones, addysg a’r Cyngor Llyfrau

Gareth Parry Jones, cyn Lywydd Cymdeithas Feddygol Cymru

Stephen Jones, chwaraewr rygbi rhyngwladol

Ann Keane, Prif Arolygydd Estyn

Meirion Llewelyn, meddyg ymgynghorol

Noel Lloyd, cyn Is-Ganghellor Prifysgol Aberystwyth

Densil Morgan, diwinydd

Arwel Ellis Owen, darlledu – BBC, Cambrensis ac S4C

Sharon Rees, Y Rhondda – addysg a gwaith gwirfoddol

Iwan Roberts – cyn bêl-droediwr rhyngwladol

Gwerfyl Thomas, Ogwr – athrawes ac eisteddfodwraig

Dyfrig Williams, gweithiwr eisteddfod

Gwynne Williams, Dyffryn Nantlle – cerddor a gwirfoddolwr

Iwan Bryn Williams, Y Bala – cynhaliwr bywyd diwylliannol

Shane Williams, chwaraewr rygbi rhyngwladol

Gwisg Werdd

Basil Davies, Y Barri, Cymraeg i oedolion

Wynne Evans, Caerfyrddin, canwr

Linda Griffiths, cantores werin

Lisabeth Miles, actors

Magwen Pughe, cerddor ac arweinydd corau

Huw Stephens, cyflwynydd radio